Gwaith o lywodraethu ac arwain Cymru yn dechrau i Vaughan Gething
Gwaith o lywodraethu ac arwain Cymru yn dechrau i Vaughan Gething
Ar ôl cyrraedd y brig, mae'r gwaith o lywodraethu ac arwain Cymru yn dechrau i Vaughan Gething.
Yn y dosbarth ffitrwydd yma, be felly ydy'r farn amdano?
A be ddylai ei flaenoriaethau fod? Mae Ioan yn gweithio i'r Llyfrgell Genedlaethol.
"Ni 'di cael toriadau yn y cyllid dros y blynyddoedd.
"Mae'n elfen bwysig o Gymru i gadw'n hanes ni a sicrhau ein hanes ni."
Mae rhai'n feirniadol nad ydy o'n siarad Cymraeg ond ydy hynny o bwys?
"Mae'n bwysig edrych ar sgiliau unigolyn.
"Os mae'r unigolyn yn dod a sgiliau da sy'n gwthio Cymru ymlaen... "..dw i'n credu bod hwnna'n bwysig."
Cafodd Steffan gyfle i'w gyfarfod fel rhan o'i waith.
"Wnes i ddarllen ar Twitter, X, dyn du cyntaf yn Ewrop... "..i gael y job mawr.
"Mwy o hynna. "Oedd e'n lyfli i fod yn onest."
"Efallai fi 'di clywed yr enw ond ddim yn gwybod pwy ydy e.
"Ydy e'n dod o Llafur?" Yndy.
"Oce, dw i'n gwybod hwnna."
Roedd Vaughan Gething yn fyfyriwr yma ym Mhrifysgol Aberystwyth tua 30 o flynyddoedd yn ôl.
Cyfnod oedd ar adegau, meddai fo, yn un amhleserus nid oherwydd lliw ei groen ond oherwydd ei safbwyntiau gwleidyddol. Be felly ydy barn rhai o fyfyrwyr Llafur y brifysgol amdano?
"Dw i'n credu bydd o'n gallu gweithio'n agos... "..i sicrhau mwy o ddatganoli i Gymru a trwsio pethau."
"I think Vaughan brings a certain experience to his role... "..having first run for the leadership in 2018.
"His work as Welsh Health Secretary during Covid was important."
Un o'i ffrindiau ers y brifysgol ydy Eifion Williams.
"Oedd Vaughan yn reit siarp so oedd hi'n anodd cael un drosta fo."
Ond mae'n cwestiynu os y bydd Vaughan Gething yn barod i herio Syr Keir Starmer os y bydd o yn Downing Street.
"Mae 'na bryder y bydd y berthynas yn rhy glos a dim digon agored... "..i ofyn y cwestiynau anodd am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru."
Wedi ennill y ras i fod yn Brif Weinidog felly mae 'na bwysau mawr arno i ddelio a'r heriau sydd o'i flaen.