Gwagio rhan o Faes Awyr Caerdydd am gyfnod oherwydd pryderon am nwy yn gollwng
Bu’n rhaid gwagio rhan o Faes Awyr Caerdydd oherwydd pryderon fod nwy yn gollwng fore dydd Iau.
Dywedodd y maes awyr bod y derfynell (terminal) ar agor unwaith eto ond bod rhai hediadau wedi eu hoedi.
Mae Maes Awyr Caerdydd, yr unig faes awyr sy’n cynnig gwasanaethau masnachol i deithwyr yng Nghymru, yn rhedeg hediadau gan gwmnïau yn cynnwys Ryanair, TUI Airways a KLM.
Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr eu bod wedi “profi digwyddiad yn ymwneud â diogelwch”.
Roedd rhywfaint o nwy yn y system rheoli tymheredd o fewn ardal gwaith adeiladu, medden nhw.
“Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, felly cafodd yr ardal ei gwacáu tra bod ein tîm yn gwirio ei bod yn ddiogel,” medden nhw.
“Roedd ychydig o oedi i rai hediadau, ond mae'r derfynell bellach yn ôl ar agor. Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.”
Roedd lluniau wedi eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos teithwyr yn gadael y maes awyr, ac yn dweud bod eu hediadau wedi cael eu gohirio.
Mae'r Daily Mirror yn adrodd fod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar adeiladau o fewn y maes awyr, er mwyn "gwella profiad i deithwyr".
Mae rhai o'r teithiau sydd i fod i adael y maes awyr heddiw yn cynnwys hediadau i Belfast, Bridgetown yn Barbados a Pharis.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn y maes awyr, ond nid oedd angen presenoldeb Heddlu De Cymru.”