'Popeth yr oeddem ag yr ydym ac am fod': Geiriau grymus Rhys Ifans i dîm pêl-droed Cymru
Fe gafodd chwaraewyr pêl-droed Cymru ysbrydoliaeth gan yr actor bydenwog o Rhuthun, Rhys Ifans, ychydig cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn y Ffindir nos Iau.
Petai Cymru'n curo'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe fydd hynny'n eu harwain at ail gymal - a'r cymal olaf - yn erbyn unai Estonia neu Gwlad Pwyl nos Fawrth nesaf.
Curo'r gêm honno - ac fe fydd dynion Rob Page wedi cyrraedd Euro 2024 yn yr Almaen.
Os oedd y chwaraewyr angen unrhyw ysbrydioliaeth, fe'i cafwyd gan Rhys Ifans. Dyma ei araith i'r chwaraewyr, wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg:
"Does neb na dim wedi ei wneud i'r fath raddau yr ydych chi wedi ei wneud ac yn ei wneud cyn hyn.
"Dim.
"Mae beirdd ac actorion a gwleidyddion a roc-a-rôlwyr wedi bod - ond does neb na dim yn ein huno yn y ffordd yr ydych chi yn ei wneud, a'n gwneud i deimlo'n ddiogel i ddangos ein balchder a'n gwewyr a'n galar a'n gobeithion a'n breuddwydion.
"Maen nhw'n byw ynddo chi.
"A phan rydych yn chwarae - nid ydych ond yn chwarae ar ran y byw - ond yn chwarae ar ran canoedd o filoedd o ddynion ddaeth o fy mlaen i a chi.
"Mae dwy filiwn o bobl yng Nghymru. Rydych chi'n chwarae ar ran 20-30 miliwn.
"Ysbrydion.
"400 mlynedd yn ôl - fe allech chi fod wedi bod yn ddynion ifanc - dyma'r llinell - yn aros ar sarnau niwlog, ar droed dyffryn yn rhywle. Yn barod i amddiffyn, diogelu, eich teuluoedd, eich cariadon, eich brodyr, eich chwiorydd, eich mamau, eich modrybedd, eich anifeiliaid, eich cartrefi. Yn barod i ymladd.
"200 mlynedd wedi hynny, fe allech chi fod wedi bod yn ddynion ifanc, yn wylo am eu mamau, yn rhannu sigaret cyn dringo allan o ffos i ryferthwy dwy ryfel byd.
"Flynyddoedd wedyn fe fydde chi fod wedi bod yn sefyll ar geg pwll glo neu chwarel, yn aros i achub y meirw a'r rhai oedd wedi eu hanafu - wedi eu chwalu mewn damwain ddiwydiannol, wedi ei chreu ar ôl degawdau o esgeulustod. Gan bobl yn rhoi arian cyn cymuned. Elw cyn tosturi.
"40 mlynedd yn ôl, fe allech chi fod wedi bod yn sefyll mewn llys barn unrhyw le yng Nghymru, yn aros am ddedfryd o garchar am weithredu'n uniongyrchol i amddiffyn eich hawl sylfaenol i fyw a breuddwydio a chael eich haddysgu yn eich iaith eich hun.
"A nawr - rydych chi yma - chi yw'r holl ddynion a bechgyn hynny. Rydych ar frig rhewfynydd Cymreig ac oddi tanoch mae ein popeth.
"Popeth yr oeddem ag yr ydym ac am fod.
"Popeth.
"Gwên ar wyneb hen ddyn. A dagrau yn ei lygaid cyn iddo farw. Rydych chi'n cynrychioli y rheiny. Rydych yn cynrychioli moroedd o amser.
"Diolch yn fawr."
Llun: CBD Cymru
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1770555916489773457