Newyddion S4C

Diwrnod olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru

20/03/2024

Diwrnod olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru

"Prynhawn da."

Fel hyn y bydd mwyafrif bobl Cymru yn cofio Mark Drakeford.

Y Prif Weinidog wnaeth dywys y wlad drwy'r pandemig yn gwneud penderfyniadau sy'n dal i gael eu cwestiynu gan rai.

Does dim dwywaith bod Covid wedi effeithio ar yr agenda oedd ganddo i geisio newid Cymru er gwell ond mae un o'i rhagflaenwyr yn bendant ei fod wedi gwneud jobyn da mewn amgylchiadau heriol.

"Fi'n credu wrth edrych nôl bod e 'di gwneud jobyn da dros ben ynglŷn â hwnna.

"Chi'n ffaelu plesio pawb.

"Bydde rhai pobl yn grac dros ben gyda rhai penderfyniadau.

"'Na beth yw democratiaeth a cymdeithas.

"Wi'n credu bydde bobl yn meddwl amdano fe fel rhywun wnaeth wneud y penderfyniadau gorau posib ar amser lle oedd 'na gyngor yn dod o bob man ac roedd rhaid i wleidydd gymryd penderfyniad ac fe wnaeth e hynny."

Ymhlith llwyddiannau Mark Drakeford oedd arwain etholiad seneddol llwyddiannus i Lafur dair blynedd yn ôl wnaeth yn ei dro arwain at y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wnaeth roi sefydlogrwydd i'w lywodraeth a chyfle i Blaid Cymru wireddu rhai polisiau.

Llofnod Adam Price yw'r un sydd gydag un Mark Drakeford ar y cytundeb yna ond fel y dyn iau dywedodd ei fod weithiau yn amlwg pwy oedd fwyaf profiadol.

"O'n i'n aml iawn yn teimlo fel myfyriwr israddedig yn cael ei bapurau wedi marcio.

"Weithiau yn cael B minus, weithiau yn cael A.

"Hynny yw, y peth cyntaf oedd yn taro chi ynglŷn â Mark Drakeford oedd ei allu deallusol e.

"Person oedd ar draws y manylion.

"Yn aml iawn pan o'ch chi'n cael cyfarfod gyda fe bydde nodiadau di-ri yn ymylon y tudalen."

Mae'r herion wedi dwysau yn ystod amser Mark Drakeford mewn grym yn rhannol oherwydd yr argyfwng costau byw.

Gan nad oes gan Gymru system budd-daliadau annibynnol fe wnaeth Mark Drakeford ganfod arian i estyn i bobl oedd wir ei angen.

Mae'r Ceidwadwyr yn bendant nad oes yna unrhyw beth i ddathlu am ei record ar faterion bara menyn eraill.

"Beth y'n ni 'di gweld o dan term Mark Drakeford yw bod ni gyda'r canlyniadau addysg waethaf yn y Deyrnas Unedig.

"Mae gyda ni amseroedd aros yn yr NHS hirach ac mae ein heconomi ni ddim mor gryf a fod galle fe.

"Dyna'r peth mae pobl yn moyn i eu gwleidyddion wneud nid y vanity projects ni wedi gweld."

Ers diwedd y pandemig dyw Mark Drakeford ddim wedi ofni dwyn polisiau dadleuol i rym.

Falle yn fwyaf oll, yr un 20 milltir yr awr. Mae'r cweryl a'r ffermwyr, streic y meddygon ac ehangu'r Senedd yn dangos ei fod e'n wleidydd sy'n fodlon gweithredu yn nannedd gwrthwynebiad.

Wrth i'r llen ddisgyn ar ei arweinyddiaeth efallai fydde hyd yn oed ei wrthwynebwyr yn ei weld fel person wnaeth redeg Cymru yn ôl ei egwyddorion ei hun er gwell neu er gwaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.