Gweriniaeth Iwerddon: Y Taoiseach Leo Varadkar yn camu o'r neilltu
Mae Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, Leo Varadkar, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu.
Dywedodd y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Fine Gael ac yn camu o’r neilltu o’r swydd sy’n gyfystyr ag un prif weinidog pan mae olynydd yn ei le.
Mewn datganiad emosiynol dywedodd: "Ar ôl saith mlynedd yn y swydd, dydw i ddim yn teimlo mai fi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon bellach.
“Rwy’n credu y gall y llywodraeth hon gael ei hail-ethol a dw i’n credu y gall fy mhlaid, Fine Gael, ennill seddi yn yr etholiad nesaf,” meddai.
“Yn bennaf oll rwy’n credu mai ail-ethol y llywodraeth hon fyddai’r peth iawn ar gyfer dyfodol ein gwlad."
Daw wedi wythnosau cythryblus i’w lywodraeth glymblaid Fine Gael, Fianna Fáil a’r Blaid Werdd.
Fe gafodd y llywodraeth ei threchu mewn dau refferendwm yr oedden nhw wedi eu rhoi gerbron y bobl ar newid cyfansoddiad y wlad.
Roedd Leo Varadkar wedi ymgyrch o blaid pleidleisio ‘ie ac ie’ yn y refferenda.
Dyma oedd ail gyfnod Leo Varadkar yn y swydd, wedi iddo wasanaethau fel Taoiseach yn flaenorol rhwng 2017 a 2020.