Chwyddiant wedi gostwng i'w lefel isaf ers bron i ddwy flynedd a hanner
Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi bod y gyfradd chwyddiant wedi gostwng i 3.4%.
Mae'r gyfradd wedi gostwng 0.6% o gymharu â'r mis diwethaf.
Yn yr misoedd diwethaf mae chwyddiant, sy’n mesur pa mor gyflym y mae prisiau’n codi, wedi bod yn arafu yn y DU.
Fe gyrhaeddodd y lefel uchaf erioed sef 11.1% ddiwedd 2022.
Roedd disgwyl iddo gwympo 3.5% mis yma, ond mae wedi disgyn 0.1% yn is na'r ffigwr disgwyliedig.
Dyma'r ffigwr isaf o ran chwyddiant ers bron i ddwy flynedd a hanner.
Ond mae'r gyfradd dal yn uwch na tharged Banc Lloegr sef 2%.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt bod ei gynllun i ostwng cyfradd chwyddiant yn gweithio.
“Mae’r cynllun yn gweithio. Nid yn unig y mae chwyddiant wedi gostwng yn bendant ond maen nhw'n rhagweld y bydd yn cyrraedd y targed o 2% o fewn misoedd."