Newyddion S4C

Poblogaeth Gaza gyfan yn 'agos iawn' at newyn

20/03/2024
newyn Gaza

Mae poblogaeth Gaza gyfan sef dwy filiwn o bobl yn profi “lefelau difrifol o ansicrwydd bwyd acíwt”, meddai Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken.

Ansicrwydd bwyd acíwt yw pan fydd anallu person i fwyta digon o fwyd yn rhoi ei fywyd neu ei fywoliaeth mewn perygl uniongyrchol. Os nad yw'r person yn derbyn bwyd, mae'n arwain at newyn.

Hwn yw'r tro cyntaf i boblogaeth gyfan gael ei gategoreiddio fel hyn, meddai pan gafodd ei holi am yr amodau yn Gaza.

Galwodd Mr Blinken ar Israel i flaenoriaethu darparu bwyd ar gyfer y rhai mewn angen.

Mae asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud y gallai gogledd Gaza wynebu newyn erbyn mis Mai heb saib yn yr ymladd a heb dderbyn mwy o gymorth.

Daeth rhybudd Mr Blinken yn ystod taith i Ynysoedd y Philipinau, wrth i ymdrechion i sicrhau cadoediad barhau.

Mae disgwyl i Israel ddechrau trafodaethau yn Qatar ddydd Mawrth mewn ymgais o’r newydd i gytuno ar gytundeb gyda Hamas i atal yr ymladd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.