Newyddion S4C

Gwyliwch: Simnai Caergybi ar Ynys Môn wedi cael ei dymchwel

20/03/2024

Gwyliwch: Simnai Caergybi ar Ynys Môn wedi cael ei dymchwel

Mae simnai Caergybi ar Ynys Môn wedi cael ei dymchwel ddydd Mercher.
 

Mae'r strwythur 400 troedfedd wedi sefyll yng Nghaergybi am dros hanner canrif, ond mae perchnogion newydd y tir, Stena Line, eisiau datblygu’r safle.

Caeodd gwaith Alwminiwm Môn yn 2009. Collodd bron i 400 o bobl eu swyddi.

Mae’r safle, sydd bellach yn cael ei alw'n Barc Ffyniant, wedi ei glustnodi ar gyfer un o'r canolfannau tollau a threthi o fewn y cynllun i ddatblygu Porthladd Rhydd Môn.
 

Fel rhan o’r gwaith, roedd y simnai yn cael ei dymchwel. 

Image
Y twr yn syrthio
Roedd modd i'r cyhoedd wylio'r tŵr yn dymchwel, ac yn ôl Porthladd Rhydd Ynys Môn, y prif nôd oedd cynnal y gwaith mewn modd diogel, gyda chyn lleied o darfu ag sy'n bosibl i'r gymuned leol.
 
"Rydym yn argymell i aelodau o’r cyhoedd sydd eisiau gwylio’r dymchweliad i wylio ar y llwybr sy’n baralel i Barc Cybi – mi fydd hwn yn rhoi golwg da, tra hefyd yn sicrhau diogelwch. 
 
"Rydym yn argymell yn gryf i gerdded i’r llwybr o ganlyniad i’r lefel o ddiddordeb sydd wedi cael ei ddangos," meddai datganiad gan y porthladd. 
 
Bydd ffyrdd a mynediadau yn cael eu cau rhwng 13:00 a 16:00 wrth i'r gwaith o ddymchwel y simnai ddigwydd.
 
Image
Traffic
Y traffig wedi'r digwyddiad
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.