Newyddion S4C

Cwmni dillad Ted Baker mewn trafferthion ariannol

19/03/2024
Ted Baker cc

Mae'n ymddangos fod cwmni Ted Baker mewn trafferthion ariannol wedi i'w berchennog gyhoeddi bwriad i benodi gweinyddwyr.

Dywed Authentic Brands Group (ABG), a wnaeth brynu Ted Baker yn 2022, fod "niwed wedi ei wneud" i'r brand ffasiwn yn ystod y cyfnod pan yr oedd cwmni AARC o'r Iseldiroedd yn rhedeg eu siopau a'u busnes arlein - partneriaeth a ddaeth i ben ym mis Ionawr.

Dywedoddd Authentic Brands y byddai siopau a gwefan Ted Baker yn parhau i fasnachu.

Dywedodd John McNamara, prif swyddog strategaeth a thrawsnewid Authentic Brands Group : “Dymunwn y byddai canlyniad gwell wedi bod i weithwyr a rhanddeiliaid Ted Baker.

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau partner newydd i gynnal a thyfu brand Ted Baker yn y DU ac Ewrop lle y dechreuodd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.