Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru i graffu ar gais cynllunio dadleuol am 500 o dai ym Mhontarddulais

19/03/2024
Tai Pontarddulais.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw llygad ar gais cynllunio dadleuol i adeiladu 504 o gartrefi newydd ym Mhontarddulais.

Mae swyddogion wedi cyhoeddi "cyfarwyddyd cadw" i Gyngor Abertawe, sy'n atal caniatâd cynllunio rhag cael ei roi hyd nes y bydd gweinidogion wedi penderfynu a ddylid galw'r cais i mewn er mwyn iddynt benderfynu arno ai peidio. 

Nid yw'r cyfarwyddyd yn atal y cyngor rhag parhau i brosesu'r cais na'i wrthod.

Persimmon Homes West Wales sydd y tu ôl i’r cynnig ar gyfer tir i’r de o Heol Glanffrwd, i’r dwyrain o Heol Ty’n-y-Bonau ac i’r gorllewin o Heol Glynhir. 

Dywedodd y cwmni y byddai'r datblygiad yn cynnwys 50 o dai fforddiadwy a fflatiau, gydag eiddo i'r farchnad agored yn cynnwys 206 o dai tair ystafell wely a 142 o dai dwy ystafell wely.

Cynllun Datblygu Lleol 

Mae’r safle wedi’i glustnodi ar gyfer tai o dan Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) y cyngor, ond mae cynllun y ffordd newydd ar gyfer y safle wedi ysgogi cryn wrthwynebiad. 

Mae hynny oherwydd bod y Cynllun Datblygu yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un a ddatblygodd y safle i adeiladu ffordd fewnol o Heol Glanffrwd i Heol Ty'n-y-Bonau a Heol yr Orsaf.

 Dywedodd swyddogion cynllunio y byddai'r ffordd newydd yn lleddfu tagfeydd yn y dref ac yn ailgyfeirio lorïau trwm o ardaloedd preswyl.

Mae cais Persimmon Homes wedi nodi prif fynedfa o Heol Ty’n-Y-Bonau ac ail fynedfa lai o Heol Glanffrwd. 

Byddai cyswllt bws yn unig yn uno'r ddau safle, er bod y cwmni wedi dweud y gallai gael ei ehangu yn y dyfodol pe bai mwy o dir yn cael ei gyflwyno ar gyfer tai. 

Roedd datganiad cynllunio ar ran Persimmon Homes yn honni bod swyddogion y cyngor wedi bod yn “bositif” yn eu hymateb i’r cynnig cyswllt bws oherwydd bod mesurau eraill fel mwy o ddarpariaeth llwybrau beicio wedi’u cynnig.

720 o gartrefi?

Dywedodd y CDLl y gallai’r safle, sy’n cynnwys tir y tu allan i reolaeth Persimmons Homes, gynnwys cyfanswm o 720 o gartrefi ac y byddai ysgol gynradd newydd, safle cyflogaeth a chyfleusterau hamdden yn rhan o’r cymysgedd cyffredinol. 

Mae cais Persimmon Homes am ganiatâd manwl ar gyfer 504 o gartrefi, gan gynnwys parc ac adeilad cymunedol, a chaniatâd amlinellol ar gyfer ysgol gynradd. 

Dywedodd y cwmni na fyddai unrhyw gartrefi yn cael eu hadeiladu o fewn 25m i brif bibell ddŵr fawr sy'n rhedeg drwy'r safle.

Dywedodd cynghorydd tref a maer Pontarddulais, Catherine Evans, fod mwyafrif y cynghorwyr yn erbyn unrhyw ddatblygiad o fwy na 10 o gartrefi. “Mae hyn ar raddfa wahanol,” meddai, gan gyfeirio at gynnig 504 cartref.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Rydym yn falch o’r gwaith sydd wedi’i wneud i’n cais cynllunio i ddod â dros 500 o gartrefi newydd o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen, ac rydym yn hyderus y bydd rhinweddau’r cynllun yn dod i’r amlwg yn ystod y broses galw-i-mewn.

“O ystyried natur strategol y safle, nid yw’n anghyffredin i Lywodraeth Cymru gymryd diddordeb mewn cynllun o’r fath, fel y gwyddom o safle arall yn Abertawe yn ddiweddar a gafodd ei gymeradwyo yn y pen draw, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i gyflawni y cartrefi newydd hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.