Gyrrwr car wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori ar yr M4
Mae gyrrwr car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ar draffordd yr M4 yn hwyr nos Lun.
Fe aeth y ddau gerbyd ar dân wedi'r gwrthdrawiad rhwng y car a'r lori oedd wedi dod i stop tua 23.20 ar gyffordd 48 Yr Hendy, Sir Gaerfyrddin.
Mae teulu'r gyrrwr wedi cael gwybod am y datblygiad ac maen nhw'n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Roedd yn rhaid cau'r draffordd i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 48 a 49 ac roedd y lonydd yn parhau ar gau i'r dwyrain a'r gorllewin rhwng y cyffyrdd hyn yn gynnar brynhawn dydd Mawrth.
Ail agorodd yr heol i gyfeiriad y gorllewin toc yn 1500, a bydd y lonydd i gyfeiriad y dwyrain yn aros ar gau tan yn ddiweddarach yn y prynhawn er mwyn symud y cerbydau oedd yn y gwrthdrawiad.
Llun: Traffic Wales.