Newyddion S4C

Cymru yn dangos ‘diffyg parch’ yn ôl Capten Yr Eidal

19/03/2024
Michele Lamaro (Huw Evans)

Mae capten tîm rygbi Yr Eidal, Michele Lamaro, wedi dweud iddo ef a’i gyd chwaraewyr wynebu ‘diffyg parch’ cyn ac yn ystod eu gêm yn erbyn Cymru penwythnos diwethaf.

Ar ôl sicrhau buddugoliaeth 21-24 yn eu gêm Chwe Gwlad yn y Stadiwm Principality, dywedodd Lamaro ar ôl y gêm bod yna “ddiffyg parch” wedi ei ddangos tuag at ei dîm.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd Eidaleg, La Gazetto Dello Sport ddydd Llun, dywedodd bod y chwaraewyr a’u teuluoedd wedi wynebu ‘sawl sefyllfa annifyr’ yn ystod eu hymweliad.

Roedd hyn yn cynnwys sylwadau nad oedd gan y tîm siawns o ennill, yn ogystal â chael cyfnod cynhesu cyn y gêm fyrrach nag arfer. 

Fe wnaeth hefyd honni bod teuluoedd y chwaraewyr wedi eu trin yn “wahanol”, gan beidio cael mynediad i bryd ar ôl y gêm a derbyn tocynnau mewn lleoliadau eilradd ar lefel y cae.

'Gwahanol'

Dywedodd Lamaro: “Yng Nghymru, roedd sawl sefyllfa annifyr, oedd ddim yn deilwng.

“Yn ystod yr wythnos, fe glywsom sawl gwaith, 'Maen nhw’n dda, ond maen nhw'n twyllo eu hunain: does ganddyn nhw ddim siawns yng Nghaerdydd' ”.

“Yna, wrth gynhesu i fyny cyn y gêm, fe ddywedon nhw wrthym ni y bydd rhaid i ni ddychwelyd i’r ystafelloedd newid 15 munud yn gynt nag arfer. Fe wnaethon ni gytuno gyda hynny.

“Ond fe wnaethon ni weld y Cymry ar y cae am o leiaf bum munud yn hirach na ni."

“Cafodd ein teuluoedd docynnau yng nghornel y cae. Cafodd fy nghariad Martina ei lleoli ar lefel y cae a welodd hi ddim llawer o gwbl."

“A chafodd neb, yn wahanol i beth sy’n digwydd fel arfer, eu gadael i mewn i’r trydydd hanner [y pryd ar ôl y gêm]. Fel dywedon ni, y pethau bychain. Mae’n ddigon i neud i ni feddwl bod yna dipyn o ffordd i fynd.”

'Trahaus'

Daw hyn wedi i Lamaro gyhuddo chwaraewyr Cymru o amharchu ei dîm yn ystod eu hymweliad diwethaf, pan wnaeth yr Eidal ennill o 21-22 gyda chic olaf y gêm.

Wrth drafod y gêm honno yn lansiad y Chwe Gwlad eleni, dywedodd Lamaro eu bod "ychydig bach yn drahaus".

“Rwy'n cofio'r 10 munud diwethaf, pan roedden nhw chwe phwynt i fyny. Cawsant gyfle i fynd naw pwynt ar y blaen gyda chic gosb a wnaethon nhw ddim cymryd yr ergyd.

"Mae hynny'n rhywbeth sydd ond yn digwydd gyda rhywun rydych chi'n ei amharchu."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Undeb Rygbi Cymru.

 

 

 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.