Newyddion S4C

Siom ar ôl i blant yn un o ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd fethu cael lle yn Ysgol Glantaf

18/03/2024

Siom ar ôl i blant yn un o ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd fethu cael lle yn Ysgol Glantaf

Ysgol Hamadryad.

Ysgol Gymraeg sy'n gwasanaethu un o ardaloedd amlddiwylliannol Cymru.

Ond mae 'na bryder bod yr ardal hon yn cael ei hesgeuluso pan ddaw hi i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

O'r 16 o blant wnaeth gais i fynd i Ysgol Glantâf ym mis Medi mae pump wedi eu gwrthod, yn eu plith mae mab hynaf Cian Ciaran.

Fedrwch chi ddychmygu'r siom bod y plant 'di cael cyfleoedd diwrnodau pontio efo ysgolion clwstwr Glantâf ac ysgolion eraill yn Llangrannog.

I'r plant, mae hwn wedi dod o nunlle iddyn nhw ac i fi.

Mae'n taro fi'n rhyfedd dros ben.

Yr agosa dach chi'n byw wrth yr ysgol gynradd y lleia tebygol ydych chi o gael lle yn yr ysgol uwchradd er gwaethaf bod nhw o fewn yr un dalgylch.

Dyw hyn yn ôl y bobl fu'n ymgyrchu i sefydlu'r ysgol, ddim yn ddigon da. O ran twf a'r egwyddor o sicrhau bod addysg Gymraeg i gael o fewn y gymuned i blant ledled Caerdydd mae hwn yn enghraifft dda iawn o le mae'r cyngor yn methu.

Yn anffodus, mae'r sefyllfa yn mynd i waethygu oni bai bod nhw'n mynd i'r afael ag e y flwyddyn hon.

Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod bod niferoedd Hamadryad yn uwch yn 2025.

Ond bod niferoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill yn gostwng... ..gan gydbwyso'r niferoedd.

Yn ôl ymgyrchwyr dyw polisi'r cyngor ddim yn annog twf mewn addysg Gymraeg.

Mae 'na gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynllunio'n fwriadus ar gyfer y twf ac ar gyfer y niferoedd sydd yn y cymunedau.

Y'n ni fel mudiad, fel RHAG, wedi bod yn gofyn i'r sir am gynlluniau ar gyfer pedwaredd ysgol gyfun Gymraeg.

Mae heddiw a'r wythnos yma'n arwydd clir bod rhaid i Gaerdydd feddwl yn ddwys nawr am sut mae'r paratoadau hynny yn mynd i gael eu cyflymu.

Mae BBC Cymru'n deall nad yw rhai o blant Ysgol Gymraeg Pwll Coch wedi cael lle yng Nglantâf chwaith.

Mae 'na bryder fod plant mewn ardaloedd tlawd yn colli mas.

Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad nad oes yna ysgol uwchradd yma. Mae 'na dair yng ngogledd y ddinas a lle mae'r arweiniad gwleidyddol? Mae 18 o lefydd ar gael yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas.

Bydd modd i blant gael cludiant am ddim i'r ysgol sydd â lle iddynt os y'n nhw'n byw dros dair milltir i ffwrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.