Newyddion S4C

Toriadau’r Cyngor Llyfrau: Peryg i awduron Cymraeg droi at y Saesneg

18/03/2024

Toriadau’r Cyngor Llyfrau: Peryg i awduron Cymraeg droi at y Saesneg

Faint o lyfrau sydd mewn fan hyn? Dros hanner miliwn.

Taith trwy storws Y Cyngor Llyfrau.

Un o sawl corff diwylliannol yng Nghymru sydd nawr yn delio a thoriad o 10.5% i'w cyllidebau. Mae'n storm berffaith.

Stand-still funding, cost-of-living crisis, gyda costau yn cynyddu ac wedyn toriad eto.

Mae e wir yn argyfwng i'n diwydiant ni.

Wrth wynebu toriad ariannol o £450,000 mae'r Cyngor Llyfrau yn wynebu penderfyniadau anodd iawn ond wedi neud ymdrech i warchod swyddi a theitlau craidd hefyd.

Does dim dwywaith bydd elfennau o'r byd cyhoeddi yn y Gymraeg yn dioddef.

Mae pob awdur yng Nghymru yn ddwyieithog.

Falle byddan nhw yn troi at ysgrifennu yn Saesneg ac yn mynd gyda gwasg mawr yn Llundain.

Mae yn doriad sylweddol sydd wir yn brifo y sector.

Yn draddodiadol roedd buddsoddi mewn awduron ifanc yn elfen bwysig o waith y cyngor a'r gweisg.

Mae un nath elwa o'r gefnogaeth honno bellach yn un o'n hawduresau mwya llwyddiannus.

Tasa'r Lolfa a'r Cyngor Llyfrau ddim wedi cymryd y risg ar ryw lyfr ffantasi oeddwn i eisiau ysgrifennu pan oeddwn i'n ugain oed a ddim wedi bod i'r brifysgol a heb ysgrifennu unrhyw beth o'r blaen fysa Llyfr Glas Nebo ddim wedi bodoli.

Dyma nofel gipiodd Y Fedal Ryddiaith cyn i addasiad Saesneg ohoni ennill y fedal Carnegie'r llynedd.

Y cyfieithiad cyntaf erioed i ddod i'r brig yn y seremoni nodedig.

Mewn ychydig flynyddoedd pan fyddwn ni yn edrych yn ôl ar y cyfnod yma ac yn meddwl bod ni wedi gorfod torri arian oedd yn mynd i awduron newydd i gymryd y risgs yna.

Mae llyfrau i blant bach yn ddrud iawn i'w argraffu hefo'r gwaith celf ac ati.

Y darllenwyr newydd yna bydd y rhai byddwn ni'n colli.

Mi fyddwn ni yn gweld yr effaith mewn blynyddoedd i ddod. Gydag un wasg yn poeni y gallai mathau penodol o lyfrau ddiflannu'n llwyr.

O beth ni wedi gweld, mae yna dorri sylweddol yn digwydd o lyfrau arbenigol a llyfrau llenyddol arbennig sydd yn sicr o olygu bod rhai llyfrau na fydd yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg oedd yn cael eu cefnogi gynt.

Tra'n cydnabod pa mor bwysig yw Cyngor Llyfrau Cymru i'r sector cyhoeddi yng Nghymru, a'r cyfraniad hanfodol maen nhw'n gwneud i'n bywyd ieithyddol a diwylliannol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu cyllideb werth £700m yn llai mewn termau go iawn o'i gymharu a phryd gafodd ei gosod yn 2021.

Rydyn ni'n parhau, meddai'r llefarydd, i weithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ymateb i heriau a chyfleoedd i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi.

Mae'r angen am gynnwys Cymraeg o ran llyfrau mor bwysig ag erioed gyda'r targed yma o filiwn.

Mae'r effaith yma yn mynd i fod yn fawr ac yn boenus iawn. Mae'r ergyd ariannol eisoes wedi ei tharo ond a fydd yna stori mwy torcalonnus i'w hadrodd wrth deimlo effaith y toriadau ymhen blynyddau i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.