Newyddion S4C

Y Fonesig Laura Kenny i ymddeol o seiclo proffesiynol

18/03/2024
Laura Kenny

Mae'r Fonesig Laura Kenny wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o seiclo proffesiynol. 

Ms Kenny ydi'r fenyw Brydeinig fwyaf llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd, wedi iddi ennill pum medal aur.

Mae hefyd wedi ennill saith gwaith yn Mhencampwriaethau'r Byd. 

Fe roddodd enedigaeth i'w hail blentyn ym mis Gorffennaf, ac roedd wedi bod yn bwriadu ceisio cystadlu yn y Gemau Olympaidd a fydd yn cael eu cynnal ym Mharis eleni. 

Mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Breakfast, dywedodd: "Roeddwn i wastad yn gwybod y byddwn i'n gwybod pryd fyddai'r amser cywir i ymddeol.

"Mae hyn wedi bod ar fy meddwl i ers ychydig bellach. Mae'r aberth o orfod gadael eich plant a'ch teulu gartref yn eithaf mawr ac yn benderfyniad mawr i'w wneud.

"Roeddwn i'n cael hi'n anodd i wneud hynny. Roedd mwy o bobl yn gofyn i mi pa rasys yr oeddwn yn eu gwneud - doeddwn i ddim eisiau mynd yn y pen draw a dyna un o'r prif resymau tu ôl y penderfyniad."

Mae Ms Kenny yn briod gyda Jason Kenny, sef y Prydeiniwr mwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd. 

Daeth Ms Kenny yn fam am y tro cyntaf yn 2017, ac fe ddychwelodd i seiclo proffesiynol yn awyddus i brofi y gallai athletwyr gael y cydbwysedd rhwng gofynion y gamp a bod yn fam. 

Ms Kenny ydi'r fenyw gyntaf o Brydain i ennill medal aur mewn tair Gemau Olympaidd yn olynol, a'r seiclwr benywaidd mwyaf llwyddiannus yn hanes y gemau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.