Rhybudd melyn am law i ardaloedd yn ne Cymru
16/03/2024
Mae rhybudd melyn am law mewn grym i nifer o siroedd yng nghanolbarth de Cymru nos Sadwrn.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 21:00 nos Sadwrn ac yn aros mewn lle tan 06:00 fore dydd Sul.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall llifogydd ar y ffyrdd amharu ar deithwyr dros nos ac yn gynnar yn y bore.
Dyma restr o'r siroedd sydd yn cael eu heffeithio.
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Penybont-ar-Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Gaerfyrddin