Teyrngedau i Syr Lenny Henry wrth iddo gyflwyno Comic Relief am y tro olaf
Mae Syr Lenny Henry wedi derbyn teyrngedau wrth iddo gyflwyno Comic Relief am y tro olaf ar ddiwrnod y trwyn coch.
Fe sefydlodd yr elusen gyda’r cynhyrchydd Richard Curtis yn 1985. Ers hynny mae Comic Relief, a lansiwyd yn 1988, wedi codi dros £1.5 biliwn o roddion sydd wedi cyrraedd dros 100 miliwn o bobl.
Fe gyhoeddodd Syr Lenny nos Wener fod dros £37 miliwn wedi cael ei godi mor belled yn yr ymgyrch eleni.
Dywedodd yr actor David Tennant fod Syr Lenny wedi cyflawni “taith anhygoel”.
Dywedodd y gyflwynwraig Davina McCall “nad oedd neb all gymryd ei le”.
Y Gymraes Alex Jones gyflwynodd y rhaglen deyrnged iddo yn hwyrach yn y nos gan gyfweld â’r digrifwr oedd yn amlwg yn emosiynol a diymhongar am ei orchestion.
Roedd nifer o bobl yn y gynulleidfa yn y stiwdio oedd wedi derbyn cymorth gan yr elusen dros y blynyddoedd.
Dywedodd Syr Lenny: “Nid yw hyn amdana i – mae’n ymwneud â’r hwyl a’r arian, y comedi a’r angerdd.”
Llun: Comic Relief