Newyddion S4C

Cyhoeddi pwy fydd Prif Weinidog nesaf Cymru

16/03/2024
Vaughan Gething Jeremy Miles

Fe fydd cyhoeddiad fore dydd Sadwrn ar gyfer pwy fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.

Fe ddechreuodd y pleidleisio fis yn ôl ar gyfer y ddau ymgeisydd sydd wedi bod yn cystadlu i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Mae Jeremy Miles, y gweinidog presennol dros addysg a’r Gymraeg, a Vaughan Gething, y gweinidog dros yr economi, wedi bod yn cystadlu i weld pwy fydd yn arwain Llafur Cymru, a’r wlad.

Maen nhw am gymryd lle Mark Drakeford, sydd wedi bod yn brif weinidog ers 2018, ar ôl cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo yn hwyr y llynedd.

Mae disgwyl cyhoeddiad am 11:00 fore dydd Sadwrn.

Bydd pwy bynnag fydd yn llwyddiannus yn dod yn bumed arweinydd y wlad ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (sef y Senedd bellach) yn 1999.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael dweud eu dweud am ba un o'r ddau wleidydd fydd arweinydd newydd y wlad.

Dim ond aelodau Llafur neu ran o sefydliadau cysylltiedig, fel undeb llafur, all gymryd rhan, sy'n golygu y gall tua 100,000 o bobl bleidleisio.

Mae gan Mr Gething gefnogaeth y rhan fwyaf o’r undebau mawr a’r Arglwydd Kinnock, fu’n arwain y blaid yn y DU o 1983 i 1992.

Mae peth dadlau wedi bod ynghylch Mr Gething yn derbyn cefnogaeth undeb Unite, ar ôl i’w wrthwynebydd gael ei ddiarddel am nad yw erioed wedi dal “swydd lleyg etholedig fel cynrychiolwyr gweithwyr”.

Dywedodd Mr Miles ei fod yn “reol newydd nad oedd neb yn ymwybodol ohoni” a bod yr aelodau’n anhapus.

Ond dywedodd Unite eu bod wedi cynnal y broses enwebu yn gywir a dywedodd Mr Gething mai mater i'r undeb oedd penderfynu ar ei brosesau democrataidd ei hun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.