Newyddion S4C

Y gwarchodwyr ceg ‘clyfar’ sy’n trawsnewid rygbi proffesiynol

ITV Cymru 15/03/2024
gwrachodwr ceg

Fel eitem o offer amddiffynnol, mae gwarchodwyr ceg wedi bod o gwmpas ers dros ganrif, ond mae eu datblygiad technolegol yn y blynyddoedd diwethaf wedi trawsnewid rygbi.

Mae gan warchodwyr ceg 'clyfar' synwyryddion symudiad, cydran batri a microsglodyn fel y gall rannu'r data y mae'n ei gasglu dros Bluetooth gydag ap ar dabled.

Mae’r dechnoleg yn galluogi meddygon i weld pan mae chwaraewyr wedi profi 'digwyddiad cyflymiad uchel' (high accelaration event) nad yw bob amser yn weladwy i'r rheini sy'n gwylio.

Mae’r arbrofi a’r ymchwilio i’r dechnoleg yma wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, gydag astudiaethau mawr mewn sawl gwlad ar wahanol lefelau ac mewn gwahanol chwaraeon.

Mae hyn yn dilyn yr heriau cyfreithiol parhaus gan gyn-chwaraewyr proffesiynol a  lled-broffesiynol sy'n dadlau bod y cyrff llywodraethu yn esgeulus wrth fethu â chymryd camau rhesymol i amddiffyn chwaraewyr rhag yr anaf parhaol a achosir gan ergydion ysgytiol ailadroddus ac is-gyfergydion.

Ym mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf, cafodd gwarchodwyr ceg clyfar ac asesiad asesu anafiadau pen newydd (HIA) eu dangos am y tro cyntaf ar y lefel elitaidd yn y gystadleuaeth ryngwladol i fenywod, WXX.

Eleni, Chwe Gwlad y dynion fu'r gystadleuaeth elitaidd gyntaf yn hemisffer y gogledd lle bu’n ofynnol i ddefnyddio technoleg gwarchodwyr ceg gan World Rugby.

Bydd Chwe Gwlad merched sy'n cychwyn yn ddiweddarach y mis hwn hefyd yn cynnwys yr un protocol HIA gan ddefnyddio'r gwarchodwyr ceg clyfar. 

Image
Llun: ITV Cymru
Llun: ITV Cymru

Rheoli anafiadau’n effeithiol

Prav Mathema yw Rheolwr Meddygol Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru a’i waith yw integreiddio gwarchodwyr ceg clyfar i arferion hyfforddi a pherfformiad pob athletwr ar lefel ryngwladol Cymru.

"Rheoli cyfergyd ac anafiadau pen yw'r prif beth sy'n peri pryder i ni fel camp ar hyn o bryd," dywedodd Prav i ITV Cymru Wales yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn y Vale Resort ym Mro Morgannwg.

“Yn fyd-eang fel camp, rydyn ni wedi dod at ein gilydd i geisio cyflwyno rhywbeth all wneud hynny’n wirioneddol effeithiol.”

Mae pob chwaraewr yn nhîm Cymru gyda gwarchodwyr ceg neu ddaliedydd pwrpasol wedi'i osod yn ddeintyddol yn dibynnu ar eu dewis personol.

“Mae yna ddau fesuriad ydyn ni'n edrych arnyn nhw mewn gwirionedd: cyflymiadau onglog a llinol," meddai Prav. “Mae hynny’n cael ei wneud gan dechnoleg amrywiol o fewn y gwarchodwr ceg sy’n golygu ein bod ni’n gallu gweld yn union beth sy’n digwydd yn fyw mewn gemau ac hyfforddiant.

“Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n gallu edrych yn ôl ar bopeth, sy’n bwysig iawn i ni oherwydd mae hynny’n caniatau i ni wedyn wneud yn siwr eu bod nhw'n mynd i mewn i dacl yn y ffordd orau.

"Bu llawer o drafod ynghylch lleihau cyswllt ond mewn gwirionedd dylem fod yn edrych i ddefnyddio'r gair ‘optimeiddio’ oherwydd ni allwch dynnu'r cyfan i ffwrdd: mae angen i ni sicrhau bod ein hogiau'n paratoi'n iawn".

Image
Gwarchodwr ceg

Dyddiau cynnar 

Yn ystod y Chwe Gwlad mae ambell i ddigwyddiad dadleuol wedi bod yn ymwneud â'r dechnoleg newydd. Yng ngêm yr Alban yn erbyn Ffrainc, roedd George Turner yn ymddangos yn anhapus pan gafodd gyfarwyddyd i ddod oddi ar y cae i gael asesiad anaf i’r pen (HIA) yn yr 17eg munud. 

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad sawl munud ynghynt a oedd yn ddigon i sbarduno system rybuddio'r gwarchodwr ceg clyfar.

Turner felly oedd y chwaraewr Chwe Gwlad cyntaf erioed i gael ei asesu oherwydd data o dechnoleg yn unig.

Fe brofodd cefnwr Cymru, Cam Winnett rhywbeth tebyg hefyd yn y daith oddi cartref i chwarae yn erbyn Iwerddon. Dywedwyd wrth y seren newydd i adael y cae ar gyfer HIA, er ei bod yn ymddangos nad oedd y chwaraewr yn ymwybodol o ba ddigwyddiad a achosodd y rhybudd.

“Rydyn ni'n dysgu, rydyn ni mor gynnar yn ein taith gyda'r dechnoleg,” meddai Prav.

“Efallai y bydd chwaraewyr yn teimlo ei fod yn dacl arferol neu nad oes unrhyw ddigwyddiad go iawn wedi bod, ond dim ond mewn digwyddiad cyswllt y bydd y dechnoleg yn cofrestru rhywbeth."

Dywedodd Prav wrth wylio fodeo o’r gem maen nhw'n gallu penderfynu a oedd y rhybudd yn un “teg”. 

"Dyma'r unig ffordd y gallwn fesur yn wrthrychol beth sy'n digwydd ym mhen chwaraewr ar hyn o bryd," meddai.

“Rwy’n credu wrth i’r gamp symud ymlaen a thyfu, mai dyma’r ffordd y byddwn ni'n mynd”.

Prif lun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.