Newyddion S4C

'Y normal newydd': Agor 'banc bob dim' yn ne Cymru gyda thlodi ar gynnydd

17/03/2024

'Y normal newydd': Agor 'banc bob dim' yn ne Cymru gyda thlodi ar gynnydd

"Ma fe'n gwych ond ma fe mor, mor upsetting bod rhaid i ni cael rhywbeth fel hyn."

Wrth i 'fanc bob dim' agor yn Abertawe mae pryderon mai tlodi yw'r "normal newydd" i nifer o deuluoedd yn y ddinas.

Cafodd Cwtch Mawr, sydd yn cael ei redeg gan elusen Faith in Families ei agor yn swyddogol ar 6 Mawrth gan cyn-brif weinidog y DU, Gordon Brown.

Mewn partneriaeth â chwmni Amazon a Llywodraeth Cymru, mae Cwtch Mawr yn dosbarthu nwyddau newydd sbon i deuluoedd sydd eu hangen.

Yn wahanol i fanciau bwyd arferol, mae'r nwyddau yma yn newydd ac yn gallu amrywio o ddillad i deganau a hefyd cyfarpar coginio.

'Pethau ni'n cymryd yn ganiataol'

"Mae'n gallu bod yn unrhyw beth. Fi 'di roi diodydd, kitchen roll, toilet roll, microwave, slow cookers, duvets, dehumidifiers, unrhyw beth ma' nhw angen, pethau sydd yn essential," meddai Katie Fisher.

Mae Ms Fisher yn gweithio i Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe ac yn cyfeirio unigolion at Cwtch Mawr er mwyn derbyn nwyddau.

"Mae pobl yn cael bwyd o'r bwydydd banc ond so nhw'n gael pethau i coginio fe. So, bod hyn ar gael i roi'r pethau 'na iddyn nhw yn anhygoel," meddai. 

"Ma' fe'n improving health and well being massively, ma fe'n rhoi decent quality of life i'r pobl 'ma. 

"Ond ma' fe hefyd mor upsetting, ma fe'n the new normal, a ma' fe jyst yn upsetting.

"Ti'n cymryd, y pethau sydd ar gael yma, pethau ni'n cymryd am granted, a ma fe jyst yn mor upsetting bod rhywbeth fel hyn yn gorfod bod ar agor i roi pethau essential i pobl yn Abertawe."

'Anobaith a thorcalon'

Cherrie Bija yw Prif Weithredwr Faith in Families, ac mae wedi gweithio yn y sector elusennau yn Abertawe am dros 25 mlynedd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi erioed wedi gweld y sefyllfa mor wael ag y mae heddiw.

"Dwi wedi gweithio yn y sector elusenau yn Abertawe am dros 25 mlynedd nawr a dwi erioed wedi gweld gymaint o anobaith a thorcalon yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt," meddai.

"Dwi erioed wedi gweld y galw am bethau syml. Mae plant yn dod aton gydag esgidiau sydd rhy fach, heb gotiau, gyda boliau gwag oherwydd dydyn nhw ddim yn bwyta'n iawn, ac mae hynny'n dorcalonus."

Image
Cherrie Bija, Prif Weithredwr Faith in Families
Cherrie yw Prif Weithredwr Faith in Families, sydd yn gyfrifol am ddosbarthu nwyddau i elusennau Abertawe.

Ers blynyddoedd bellach mae Kim Mort wedi bod yn gwirfoddoli ym manc bwyd Sgeti yn Abertawe.

Pan ddechreuodd roedd tua chwech o bobl yn unig yr wythnos yn ei ddefnyddio, bellach mae dros 150.

"Pan ddechreuais roedd rhan fwyaf o'r bobl oedd yn dod atom yn pobl oedd yn dioddef mewn bywyd," meddai.

"Bellach rydym yn gweld bod tua 150 o bobl yr wythnos yn ein defnyddio, ac fe all y pobl yna bod yn rhai sydd yn gweithio ond yn gweld hi'n anodd gyda ariannu bwyd a chostau byw cyffredinol.

"Mae rhaid iddyn nhw ddewis 'a ydw i'n talu am fy forgais neu ydw i'n prynu bwyd a sut ydw i'n edrych ar ôl fy mhlant?'."

Mewn un achos, roedd unigolyn oedd yn defnyddio'r banc bwyd wedi gofyn am becyn bwyd oer yn unig, gan nad oedd y cyfarpar gan yr unigolyn i goginio bwyd.

Ond diolch i Cwtch Mawr roedd modd i'r person derbyn Airfryer er mwyn gallu coginio.

Roedd y person "yn ei ddagrau" pan dderbyniodd yr Airfryer, meddai Mrs Mort.

'Parch ac urddas'

Amazon sydd yn darparu’r nwyddau, ac mae Cwtch Mawr yn cyd-weithio ag elusennau ar draws Abertawe i’w darparu i bobl sydd eu hangen.

Mae gweithwyr Amazon yn gweithio yn Cwtch Mawr er mwyn pecynnu y nwyddau mae'r elusenau yn gofyn amdanynt, yn ogystal â helpu unigolion sydd yn dod i gasglu archebion mawr.

Y nod yw helpu dros 40,000 o deuluoedd y flwyddyn hon a dychwelyd "parch ac urddas" iddynt.

Image
Un o weithwyr Cwtch Mawr
Mae nifer o nwyddau yn eu niferoedd yn Cwtch Mawr.

"Rydym yn gweld teuluoedd ac unigolion sydd erioed wedi derbyn eitemau newydd sbon o'r blaen," meddai Cherrie Bija.

"Maen nhw wastod wedi byw ar roddion a nwyddau ail-law. 

"Mae hyn am roi parch ac urddas i bobl i allu cerdded o gwmpas mewn cot newydd sbon, cerdded o gwmpas mewn esgidiau heb dyllau, i allu cymryd rhan mewn chwaraeon neu i fod yn dwym, i droi tŷ mewn i gartref

"Felly nod Cwtch Mawr yw i roi y cwtch a pharch i bobl, ac i wneud iddynt deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrofi a'u gofalu am gyda thosturi ac urddas."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.