Y Fenni 'ymysg y llefydd gorau i fyw' ym Mhrydain
15/03/2024
Mae'r Fenni "ymysg y llefydd gorau i fyw" ym Mhrydain yn ôl papur newydd The Sunday Times.
Cafodd eu rhestr flynyddol 'Llefydd gorau i fyw ym Mhrydain' ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Y Fenni ddaeth i'r brig fle y lle gorau i fyw yng Nghymru.
Roedd y beirniaid wedi "tynnu sylw at Ŵyl Fwyd y Fenni a chanmol ysbryd cymunedol y dref a’r byd chwaraeon cryf ac amrywiol" oedd yn bresennol yno.
Ychwanegodd y beirniaid: "Ychydig o gorneli o'r DU sydd mor gyfeillgar a hardd."
Rhuthun yng ngogledd Cymru oedd yr enillydd y llynedd.
Tref North Berwick yng ngogledd Yr Alban oedd yr enillydd drwy Brydain.