Y blychau pleidleisio wedi agor yn etholiad arlywyddol Rwsia
Yn Rwsia mae'r blychau pleidleisio wedi agor yn yr etholiad am arlywyddiaeth y wlad - er nad oes amheuaeth pwy fydd yn fuddugol yno eto.
Mae disgwyl i Vladimir Putin sicrhau pumed tymor iddo'i hun wrth y llyw, gan nad oes unrhyw wrthwynebydd dylanwadol yn ei herio.
Petai Putin fel y disgwyl yn ennill eto, fe fyddai'n arwain ei wlad o 146 miliwn o bobl tan 2030.
Fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ddydd Sul.
Er ei 'ymgyrch filwrol' waedlyd yn Wcráin dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r arweinydd 71 oed yn parhau'n boblogaidd ymysg trwch o'r boblogaeth ac yntau mewn rheolaeth lwyr o lysoedd a chyfryngau'r wlad.
Mae'r unig ddau ddyn allai fod wedi cynnig her wirioneddol i'w ymgyrch yn eu bedd - gyda dyfalu mai dylanwad uniongyrchol Putin ei hun oedd yn gyfrifol am eu marwolaethau.
Bu farw Boris Nemtsov ar ôl cael ei saethu ger y Kremlin yn 2015, a bu farw Alexei Navalny mewn amgylchiadau amheus yn un o garchardai'r wlad fis diwethaf.
Mae arweinyddion eraill oedd wedi meiddio herio'r drefn wedi ffoi o'r wlad, ac mae'r canlyniad, pan ddaw mewn ychydig ddyddiau, yn un nad oes llawer o ddyfalu amdano ymysg dinasyddion Rwsia.