Newyddion S4C

Cyhuddo CPD Aberystwyth ar ôl i gêm gael ei gohirio am ddiffyg ffisiotherapydd

14/03/2024
2024-02-09 Pontypridd United v Aberystwyth Town-36.jpg

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi eu cyhuddo o dorri rheolau’r Cymru Premier JD gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), ar ôl i gêm gael ei gohirio oherwydd nad oedd ganddyn nhw ffisiotherapydd cymwys yn bresennol.

Cafodd y gêm rhwng Pontypridd ac Aberystwyth ei gohirio’n hwyr ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth, oherwydd gan nad oedd Aberystwyth wedi “methu â chyflawni darpariaeth feddygol” addas.

Roedd y tîm wedi methu teithio i Barc Chwaraeon USW, sef cartref Pontypridd, gyda ffisiotherapydd siartredig neu therapydd chwaraeon cymwys.

Dywedodd Anthony Williams, hyfforddwr Aberystwyth wrth raglen Sgorio ddydd Sadwrn bod eu ffisiotherapydd arferol wedi ei “daro’n wael gyda salwch” yn y bore, “ar y funud olaf.” 

“Fe wnaethon ni ddod a rhywun i gymryd ei le, ond yn ôl sôn, nid dyna oedd y cymwysterau cywir ac ni chawsom gymorth gan unrhyw dîm arall,” meddai.

Dywedodd Gavin Allen rheolwr Pontypridd, fod y clwb wedi gwrthod cais gan Aberystwyth i ffisiotherapydd y tîm cartref “edrych ar ôl y gêm” ar ei ben ei hun.

Daeth cadarnhad gan CBDC ddydd Iau eu bod wedi dwyn cyhuddiad o ddirmygu’r gynghrair, am fethu â sicrhau ffisiotherapydd cymwys, gan achosi’r gêm i gael ei gohirio.

Mae gan Aberystwyth tan ddydd Gwener 22 Mawrth i ymateb i’r cyhuddiad, cyn i'r achos gael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol CBDC.

Llun: Chwaraewyr Aberystwyth a swyddogion yn trafod cyn y gêm yn erbyn Pontypridd gael ei ohirio. (Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.