Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn awgrymu symud neu ail-ddehongli cofebion dadleuol yn hytrach na’u dinistrio

14/03/2024
Cerflun Picton

Mae adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru wedi awgrymu symud neu ddarparu gwybodaeth newydd am gofebion dadleuol yn hytrach na’u dinistrio.

Mae’r canllawiau i gyrff cyhoeddus ar goffáu cyhoeddus yng Nghymru yn awgrymu “tynnu ac adleoli, lle mae cytundeb y gallai lleoliad llai sensitif fod yn fwy priodol”.

Dewis arall fyddai darpau gwybodaeth newydd sy’n dehongli’r cofebau fel eu bod yn “ffurfio rhan o gofnod cytbwys”.

Y cefndir

Cafodd cerflun o Edward Colston ei dynnu i lawr gan brotestwyr gwrth-hilion ym Mryste yn sgil protestiadau Bywydau Du o Bwys yn 2020. 

Yng Nghymru, cafodd portread o Syr Thomas Picton ei dynnu i lawr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ond mae bellach wedi ei "ail-ddehongli" a'i ddangos eto.

Yr un flwyddyn, fe gafodd cerflun o Picton yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ei guddio mewn bocs.

Roedd Syr Thomas Picton yn cael ei ystyried gan rai yn arwr ym mrwydr Waterloo. Ond roedd hefyd yn cael ei gysylltu â  chamdriniaeth bobl dduon a chaethweision ar ynys Trinidad, tra’n Llywodraethwr Prydain yno.

Tynnu sylw at hanes rhagfarnllyd

Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd ddydd Iau yn nodi y gallai dinistrio cofebion dynnu sylw at “hanes rhagfarnllyd” unigolion a fyddai fel arall yn cael eu hanghofio.

Gall hefyd “dynnu nodweddion cyfarwydd o'r dirwedd”.

“Mae dad-drefedigaethu yn ceisio osgoi parhau mythau trefedigaethol hiliol am oruchafiaeth pobl wyn, ond nid yw'n golygu cael gwared ar bob tystiolaeth o'r gorffennol ymerodrol,” meddai’r adroddiad.

‘Gwrth-hiliol’

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, bod coffau cyhoeddus yn gallu bod yn ddadleuol a bydd wastad o ddiddordeb aruthrol i’r cyhoedd”.

Byddai y canllawiau newydd yn helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud “penderfyniadau gwybodus” am goffáu mewn mannau cyhoeddus, “ac wrth wneud hynny, gyfrannu at ein nod o Gymru wrth-hiliol,” meddai.

O benderfynu creu neu newid cofeb cyhoeddus, dywedodd bod modd:

  • Cynnwys gwybodaeth newydd sy’n “dehongli” a’n “galluogi cofebion cyhoeddus i ffurfio rhan o gofnod cytbwys, dilys wedi’i ddaddrefedigaethu o’r gorffennol”.
  • “Tynnu ac adleoli, lle mae cytundeb y gallai lleoliad llai sensitif fod yn fwy priodol.”
  • Neu greu “gwaith newydd sy'n rhoi cyfle i gofio am ffigyrau neu ddigwyddiadau anghofiedig hyd yma” ac “ymestyn cynrychiolaeth gyhoeddus i'r cymunedau niferus sydd wedi cyfrannu at lunio Cymru”.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.