Newyddion S4C

Prisiau nwyddau'n gostwng am y tro cyntaf ers Hydref 2021

14/03/2024
prynu

Mae prisiau nwyddau ar-lein ychydig yn rhatach nag yr oedden nhw flwyddyn yn ôl.

Roedd prisiau nwyddau archfarchnad ar-lein ym mis Chwefror 1.2% yn rhatach na'r adeg yma yn 2023, yn ôl y ffigyrau diweddaraf - y tro cyntaf i'r ffigyrau ostwng ers mis Hydref 2021.

Ac roedd nwyddau anifeiliaid anwes hefyd 0.5% yn rhatach.

Yn gyffredinol, ar draws pob categori, roedd prisiau nwyddau ar-lein wedi gostwng 8.2%, o'u cymharu â mis Chwefror 2023.

Bu cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl yn cymryd mantais o gynigion i "brynu nawr, talu wedyn."

Roedd pobl yn y DU wedi gwario £1.38 biliwn yn y modd yma yn ystod y mis - cynnydd o 9.5 y cant mewn blwyddyn, a chynnydd o £120 miliwn mewn benthyca i bob pwrpas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.