Teyrnged teulu i lanc 16 oed fu farw yn Sir Benfro
Teyrnged teulu i lanc 16 oed fu farw yn Sir Benfro
Mae teulu llanc 16 oed fu farw wedi digwyddiad ar dir preifat yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddo.
Fe fu farw Llŷr Davies a oedd yn ddisgybl Bl 11 yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn dilyn y digwyddiad yn ardal Efailwen ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i gyfeiriad yn ardal Clunderwen, wedi adroddiadau o ddigwyddiad mewn eiddo preifat brynhawn Mawrth.
Dywedodd ei deulu: “Gyda thristwch ry'n ni fel teulu yn cyhoeddi marwolaeth ein hannwyl Llŷr.
“Ar y 12fed o Fawrth cafodd ein byd ei droi wyneb i waered wrth ddysgu am farwolaeth ein bachgen caredig, doniol a swynol.
“Bydd dy bersonoliaeth ofalgar a chynnes yn aros gyda ni am weddill ein dyddiau.
“Roedd dy allu i oleuo unrhyw ystafell oeddet ti’n cerdded i mewn iddi yn rhywbeth y byddwn yn ei drysori ac yn ei gofio am byth.
“Fydd ein bywydau ni byth yr un peth hebddot ti Llŷr, byddi di yn ein calonnau am byth. Cysga’n dawel ein bachgen hardd.
“Hoffai’r teulu ddiolch i ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach am eu holl negeseuon o gefnogaeth.
“Mae wedi rhoi cysur i ni yn ystod y cyfnod tywyll hwn o wybod bod Llyr wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau.”
'Hoffus'
Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys fod y crwner wedi cael gwybod ac yn sgil natur y digwyddiad, mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch hefyd wedi cael gwybod.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn: "Newyddion hynod o drist ddoe bod un o'n chwaraewyr Dan16 wedi colli ei fywyd mewn damwain.
"Roedd Llŷr Davies yn fachgen hoffus ac yn ffrind i bawb. Mae'r clwb yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'r teulu a'i holl ffrindiau."
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi, eu bod nhw'n "hynod drist" i glywed y newyddion.
"Hoffwn ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu ar yr amser trist ac anodd hwn," meddai.
"Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'n staff a'n disgyblion dros y dyddiau nesaf."