Ysgol Glan Clwyd yn ennill Cwpan Merched dan 18 Ysgolion Cymru
Ysgol Glan Clwyd yn ennill Cwpan Merched dan 18 Ysgolion Cymru
Ffeinal Cwpan Merched dan 18 Ysgolion Cymru. Oedd, roedd hi'n brynhawn hanesyddol i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Glan Glwyd.
Ac er gwaetha'r glaw, roedd y gefnogaeth gan y ddwy ysgol i'w glywed ar Barc Penydarren ym Merthyr.
"Cyrraedd y gynderfynol yw'r uchafbwynt. Mae'r cefnogwyr wedi dod am y diwrnod felly mae'n achlysur.
"Mae hwn wedi bod yn siwrnai mawr i gael y merched i gael yr un cyfle a'r bechgyn. Maen nhw wedi chwarae'n wych drwy'r tymor a dwi'n hynod o falch."
Gôl gynnar a'r dechrau perffaith i Glan Clwyd. Ac er i Fro Myrddin sgorio cic rydd, y tîm o'r gogledd oedd yn rheoli'r hanner cynta. Chwe gôl i un ar yr hanner.
Ar ôl chwarae da, mi darodd Bro Myrddin yn nôl yn yr ail hanner. Ond er yr ymdrech arwrol i gadw yn y gêm Glan Clwyd oedd yn fuddugol o chwe gôl i dair.
Er fod cwpan ysgolion merched wedi bodoli ar gyfer oedrannau dan 15 dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ar gyfer dan 18.
Gyda 30 o ysgolion yn cystadlu eleni mae'r galw am gystadleuaeth o'r fath yn amlwg.
"Mae'n grêt i fod 'ma a chwarae teg i Glan Clwyd am fod yn anhygoel. Un o'n chwaraewyr ni wnaeth hala llythyr i gael y gystadleuaeth. Mae'n brofiad gwych i fod 'ma yn y lle cynta."
"Wnaethon ni deithio am bedair awr lawr. Edrych ymlaen i fynd a'r cwpan nôl i Ysgol Glan Clwyd."
Ar ôl misoedd o waith caled, Glan Clwyd yn enillwyr haeddiannol a'r cyntaf o nifer o ysgolion fydd yn cystadlu am y fraint o godi'r cwpan.