George North yn dweud y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl y Chwe Gwlad
George North yn dweud y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl y Chwe Gwlad
Mae George North wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl y Chwe Gwlad, wedi 14 mlynedd yn chwarae dros dîm rygbi Gymru.
Mae North, a gafodd ei fagu ym Mhontrhydybont ar Ynys Môn, wedi ennill 120 o gapiau dros ei wlad mewn cyfnod o dros 14 mlynedd.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru pan oedd yn 18 oed.
North oedd y chwaraewr ieuengaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru pan chwaraeodd yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror 2021 yn 25 oed.
Mae wedi chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2011.
Bydd North yn gadael rhanbarth y Gweilch y tymor nesaf er mwyn ymuno â thîm Provence, sydd yn chwarae yn yr ail haen yn Ffrainc.
Inline Tweet: https://twitter.com/George_North/status/1767882886105964610?s=20
Wrth gyhoeddi’r newyddion ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd: “Rydw i wedi penderfynu bydd y gêm ddydd Sadwrn yn dod â fy ngyrfa ryngwladol i ben.
“Ar ôl 14 mlynedd, mae’n teimlo fel yr amser iawn i gamu i ffwrdd nawr. Rydw i wedi trysori pob eiliad mewn crys Cymru ac rydw i wedi chwarae gyda rhai cyd-chwaraewyr ffantastig.
“Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael gwireddu fy mreuddwyd. Rydw i’n gyffrous am y bennod nesaf. Diolch i chi am eich holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.”
'Anferthol'
Yn ystod ei yrfa, mae North, sydd yn gyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Bodedern, wedi ennill 120 o gapiau dros Gymru a dim ond Alun Wyn Jones (168) a Gethin Jenkins (129) sydd wedi cynrychioli eu gwlad yn amlach.
George North sydd wedi sgorio’r ail nifer mwyaf o geisiau dros Gymru hefyd, wedi iddo sgorio ar 47 achlysur. Dim ond Shane Williams sydd wedi tirio’n fwy nag ef.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae cyfraniad George North i Rygbi Cymru wedi bod yn anferthol.
"Rwy’n cofio ei weld yn chwarae yn fachgen ifanc a meddwl bod yn rhaid i mi roi cyfle iddo.
"Dyna wnes i pan oedd George ond yn ddeunaw oed – ac mae wedi bod yn chwaraewr aruthrol dros ei wlad ers hynny.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1767884494860652601?s=20
“Yn ogystal â bod yn chwaraewr a hanner, mae’r modd doeth ac aeddfed y mae wedi cyfrannu at awyrgylch y garfan dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy.
"Mae’n berson hynod o bositif ac mae’r anogaeth y mae wedi ei gynnig i’w gyd-chwaraewyr wedi bod yn hynod werthfawr.
"Dyw pobl y tu allan i’r garfan ddim yn gweld y pethau mae’n eu trefnu er mwyn creu awyrgylch dda ymysg y grŵp.
“Mae George yn ddyn arbennig iawn ac fe all ef a’i deulu a’i ffrindiau fod yn hynod o falch o’r hyn y mae wedi ei gyflawni yn ystod ei yrfa aruthrol.
“Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn chwarae yn Stadiwm Principality am y tro olaf ac ‘rwy’n gobeithio y gwnaiff y dorf ddangos eu gwerthfawrogiad iddo. Diolch George."