Newyddion S4C

Llifogydd Pontypridd: Trigolion yn ‘byw mewn ofn’

ITV Cymru 13/03/2024
Llifogydd Pontypridd

Mae trigolion ym Mhontypridd yn parhau i ddisgwyl datrysiad i atal llifogydd bedair blynedd ar ôl i storm “beryglus” Dennis achosi dirfod sylweddol. 

Ym mis Chwefror 2020, roedd stryd Teras Clydach yn Ynysybwl ymysg yr ardaloedd gafodd ei heffeithio fwyaf gan y storm wedi i’r Afon Taf orlifo. 

Mae Paul Thomas wedi byw ar y stryd ers dros 40 mlynedd.  

“Roedd yn erchyll. Ar noson y llifogydd wnes i wario dros awr yn trio stopio'r dŵr rhag dod mewn i’r tŷ,” meddai Mr Thomas wrth raglen Sharp End ITV Cymru. 

Mae merch Mr Thomas, sydd ag anableddau yn byw drws nesaf iddo. Fe wnaeth y llifogydd daro ei thŷ hi yn gyntaf, gyda “ffynnon o ddŵr” oedd yn dalach nag ef yn llifo o’r toiled. 

“Fe wnes i drio atal y dŵr gyda thyweli,” meddai Mr Thomas. 

Ond bu'n rhaid i Mr Thomas adael ei ferch yn y tŷ ar ei phen ei hun er mwyn mynd i drio atal y dŵr rhag difrodi ei dŷ ei hun. 

“Roedd rhaid i mi ddweud wrthi fynd fyny’r grisiau a’i gadael… mi oedd hwnna yn anodd iawn i ddelio gyda,” meddai. 

Image
Llifogydd Pontypridd
Llun: Sharp End

Er holl ymdrechion Mr Thomas, fe wnaeth y llifogydd ddinistrio ei dŷ gyda’r dŵr bron a chyrraedd y nenfwd. 

Ers hynny Mr Thomas wedi adnewyddu eu cartref – ond maen nhw’n parhau i fyw mewn ofn bob tro y bydd hi’n bwrw glaw.

‘Caled iawn’

Dywedodd Mr Thomas: “Rwyf wedi byw yma ers 40 mlynedd, ganwyd fy mhlant i gyd yma. Ond mae byw yma yn galed iawn yn enwedig pan ddaw’r gaeaf. 

“Bob tro mae'n bwrw glaw dwi’n meddwl 'a yw'n mynd i ddigwydd heno', ‘da ni’n symud ein pethau i fyny'r grisiau.”

Yn ôl Mr Thomas mae trigolion y stryd yn byw mewn ofn pan mae rhagolygon tywydd gwael. 

“Mae gennym ni rybuddion tywydd - maen nhw'n neis - ond dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth i ni ond achosi pryder aruthrol.”

Mae’r awdurdodau yn cynllunio rhestr o opsiynau er mwyn datrys y broblem ond fe all hynny gymryd tan ddiwedd y ddegawd. 

Dywedodd Mr Thomas: “Un opsiwn yw adeiladu wal a fydd yn lleihau'r briffordd gan arwain at draffig ffeil sengl a dim mwy o barcio ar y stryd. Bydd wal tri metr tu allan i’r tŷ yn dibrisio’r lle hyd yn oed yn fwy.” 

Llifogydd difirfol

Mae Teras Clydach yn sefyll ar orlifdir naturiol mewn rhan gyfyng iawn o'r dyffryn ac yn hanesyddol mae wedi dioddef llifogydd difrifol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod gan y gymuned berygl llifogydd unigryw oherwydd ei sefyllfa. Pan fydd yn gorlifo, mae'n gwneud hynny'n gyflym ac i ddyfnder mawr, sy'n golygu bod perygl i fywyd.

Nid oes unrhyw amddiffynfeydd llifogydd yn Ynysybwl ar hyn o bryd, er bod CNC yn dweud eu bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd i reoli'r perygl llifogydd. Mae CNC wedi tynnu mwy na 700 tunnell o ddeunydd haidd afon o sianel yr afon ger Teras Clydach ers 2020.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal proses ‘Achos Busnes’ llawn i reoli’r risgiau i drigolion y stryd sy’n dod i ben yn 2029.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.