Newyddion S4C

Pêl-droed: Merched Ysgol Glan Clwyd yn bencampwyr Cymru

12/03/2024

Pêl-droed: Merched Ysgol Glan Clwyd yn bencampwyr Cymru

Merched Ysgol Glan Clwyd yw enillwyr cyntaf Cwpan Ysgolion Cymru i ferched yn dilyn eu buddugoliaeth dros Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Trechodd yr ysgol yn Llanelwy, Sir Ddinbych yr ysgol o Gaerfyrddin 6-3 ar gae Parc Penydarren ym Merthyr Tudful.

Eleni oedd y tro cyntaf i'r gystadleuaeth dan 18 i ferched gael ei chynnal.

Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon oedd pencampwyr cystadleuaeth y bechgyn eleni, a nhw yw'r ysgol gyntaf i'w hennill deirgwaith yn olynol.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae Ysgol Glan Clwyd wedi llongyfarch y merched ar eu buddugoliaeth.

Llun: Ysgol Glan Clwyd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.