Newyddion S4C

Rhoddwr Ceidwadol yn dweud sori wrth Diane Abbott

12/03/2024
Diane Abbott

Mae un o brif roddwyr ariannol y Blaid Geidwadol Frank Hester wedi dweud ei fod "wir yn ymddiheuro" am wneud sylwadau "anghwrtais" am y cyn-Aelod Seneddol Llafur Diane Abbott. 

Yn ôl y papur newydd The Guardian, roedd Mr Hester wedi dweud bod Ms Abbott yn gwneud iddo “fod eisiau casáu pob menyw ddu” ac y “dylai gael ei saethu”.

Mae Mr Hester, prif weithredwr y cwmni technoleg gofal iechyd The Phoenix Partnership (TPP), wedi cyfaddef iddo wneud y sylwadau “anghwrtais” am Ms Abbott.

Ond dywedodd nad oedden nhw “ddim byd i’w wneud â’i rhyw na lliw ei chroen”.

Mae’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Blaid Geidwadol i ddychwelyd yr arian mae Mr Hester wedi ei roi iddi.

Fe roddodd Mr Hester £10 miliwn i’r Ceidwadwyr y llynedd, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Dywedodd The Guardian fod Mr Hester wedi gwneud y sylwadau am Ms Abbott wrth feirniadu swyddog gweithredol benywaidd mewn sefydliad arall yn ystod cyfarfod ym mhencadlys TPP yn 2019.

Yn ôl y papur newydd, roedd Mr Hester wedi dweud: “Mae fel ceisio peidio â bod yn hiliol ond rydych chi’n gweld Diane Abbott ar y teledu ac rydych chi fel… rydych chi eisiau casáu pob menyw ddu oherwydd ei bod hi yno.

“A dydw i ddim yn casáu pob menyw ddu o gwbl, ond rwy’n meddwl y dylai gael ei saethu.

“Mae angen saethu (y swyddog gweithredol) a Diane Abbott.”

Ar y pryd, roedd Ms Abbott - sydd wedi ei gwahardd fel AS Llafur ar hyn o bryd - yn Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid o dan y cyn-arweinydd Jeremy Corbyn.

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan ei gwmni TPP, dywedodd Mr Hester ei fod wedi ffonio Ms Abbott dydd Llun i “ymddiheuro’n uniongyrchol am y boen mae wedi achosi iddi”.

Dywedodd y datganiad: “Mae Frank Hester yn derbyn ei fod wedi bod yn anghwrtais am Diane Abbott mewn cyfarfod preifat sawl blwyddyn yn ôl ond nid oedd gan ei feirniadaeth unrhyw beth i’w wneud â’i rhyw na lliw ei chroen.

“Mae The Guardian yn iawn pan mae’n dyfynnu Frank yn dweud ei fod yn casáu hiliaeth, oherwydd mae wedi profi hiliaeth ei hun fel plentyn mewnfudwr Gwyddelig yn y 1970au.

Ychwanegodd y llefarydd:“Mae’n dymuno gwneud yn glir ei fod yn ystyried hiliaeth yn wenwyn nad oes iddo le mewn bywyd cyhoeddus.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Mae Mr Hester wedi gwneud yn glir, er ei fod yn anghwrtais, nad oedd gan ei feirniadaeth unrhyw beth i'w wneud â'i rhyw na lliw ei chroen. Mae wedi ymddiheuro ers hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.