Y brodyr Tate wedi eu cadw yn y ddalfa yn Romania
Mae Andrew Tate a'i frawd Tristan wedi eu cadw yn y ddalfa yn Romania ar ôl i Brydain gyhoeddi warant i'w harestio ddydd Llun.
Mae'r honiadau yn eu herbyn yn cynnwys troseddau rhywiol ac ecsbloetio pobl meddai Heddlu Romania.
Gwadu "yn llwyr yr holl gyhuddiadau" mae'r ddau frawd.
Yn ôl cynrychiolydd y dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â'r warant ddydd Mawrth.
Mae'r ddau frawd yn dweud fod y troseddau honedig wedi digwydd dros ddegawd yn ôl.
"Maen nhw'n gwrthod yn llwyr yr holl gyhuddiadau ac yn siomedig bod nhw wedi cael eu hatgyfodi heb dystiolaeth sylweddol newydd," meddai'r cynrychiolydd ar eu rhan.