Newyddion S4C

'Mae gen i waed Cymreig': Seren yr NFL wedi egluro mwy am ei datŵs Cymraeg

11/03/2024
Tyson Bagent

Wedi cyfnod o gryn ddyfalu ar gyfryngau cymdeithasol pam bod gan un o sêr yr NFL yn yr UDA ddau datŵ Cymraeg ar ei gorff, mae cysylltiadau Cymreig Tyson Bagent wedi dod i’r amlwg.

Wrth siarad ar bodlediad chwaraeon, The Sevan Podcast, esboniodd Bagent, sy’n chwarae i dîm y Chicago Bears yn y Gynghrair Bêl-droed Americanaidd, fod ganddo deulu sy’n wreiddiol o Gymru.

“Mae fy nhad-cu yn Gymro,” meddai.

“Dwi’n Cymro, mae gen i waed Cymreig, felly mae’r tatŵ ar gyfer fy nheulu.” 

Mae'r tatŵs yn cynnwys y gair 'Teulu' a'r frawddeg 'Teimlais fy holl mywyd fy mod i fod i hedfan'.

Yn 2019 roedd lluniau ohono gydag un tatŵ yn unig ar ei gorff, sef y gair 'Teulu' ar ei frest. 

Dywedodd Bagent taw dyna oedd ei datŵ cyntaf, ac fe benderfynodd ar y gair hwnnw gan ei fod yn caru ei deulu gymaint. 

Bellach mae wedi ychwanegu at ei gasgliad inc, gan gynnwys y dyfyniad Cymraeg arall.

Yn 23 oed, fe gafodd Tyson Bagent ei fagu yn Martinsburg yng Ngorllewin Virginia gan chwarae i dîm y Shepherd Rams cyn ymuno â thîm y Chicago Bears yn 2023. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.