Bariau yn dychwelyd i'r sgrin fach am ail gyfres
Fe fydd ail gyfres o'r ddrama garchar poblogaidd, Bariau i'w gweld ar y teledu yn 2025.
Drama ddwyieithog wedi ei lleoli yng ngharchar dynion Y Glannau yw Bariau, gyda’r straeon wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.
Mae’r ddrama ar S4C yn canolbwyntio ar berthynas y carcharorion a’r swyddogion carchar ac yn dilyn hynt a helynt prif gymeriad y gyfres, Barry Hardy.
Gwion Tegid sy’n chwarae rhan Barry Hardy. Mae'n dweud ei fod yn “edrych ymlaen” at ddychwelyd i’r rôl.
“Mae’r ymateb i’r gyfres gyntaf wedi bod yn overwhelming. Roedd gymaint o ymateb positif gan drawstoriad eang o’r gynulleidfa.
“Roedd saethu’r gyfres yn gymaint o bleser, heb os y gwaith mwyaf boddhaol i mi wneud hyd yn hyn, ac rwyf yn edrych mlaen i gael cydweithio efo'r criw a chast talentog eto ar yr ail gyfres.”
Bydd yr ail gyfres, fel y gyntaf, yn cael ei ffilmio yn Stiwdio Aria yn Llangefni ar Ynys Môn.
Mi fydd yr ail gyfres hefyd yn rhan o ddigwyddiad marchnata MipTV yn Cannes, Ffrainc, “gyda’r gobaith o ddenu sylw darlledwyr rhyngwladol i’w trwyddedu ar gyfer darllediadau yn eu tiriogaeth nhw,” dywedodd Bedwyr Rees, Uwch Gynhyrchydd Rondo Media.
“Y gobaith yw y bydd sianeli rhyngwladol yn prynu hawliau i ddarlledu’r gyfres yn eu gwledydd/rhanbarthau nhw.
“Hon fydd y gyfres gyntaf sydd wedi ei lleoli mewn carchar sydd wedi ei chynhyrchu yn yr iaith Gymraeg a fydd i’w gwerthu i ddarlledwyr rhyngwladol.
“Bydd yn ennill ei phlwyf nesaf at gyfresi llwyddiannus o’r gwledydd Sgandinafaidd ac ieithoedd lleiafrifol eraill,” meddai.
Ychwanegodd Mr Rees ei fod yn falch o'r ymateb i'r gyfres gyntaf.
“Rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i fynd yn ddyfnach i mewn i’r byd hwn, gyda’r bwriad o greu cyfres arall fydd yn herio ar y naill law, a diddanu ar y llall," meddai.