Newyddion S4C

Negeseuon WhatsApp coll yn ‘codi cywilydd’ ar Vaughan Gething

11/03/2024
Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething wedi dweud bod negeseuon Whatsapp coll o'i ddyddiau yn Weinidog Iechyd yn rhywbeth sy’n “codi cywilydd” arno.

Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru ar ddechrau pandemig Covid-19 ac mae’n ymgeisydd yn etholiad arweinyddol Llafur Cymru.

Wrth iddo roi tystiolaeth i'r ymchwiliad Covid-19 ddydd Llun gofynodd y prif gwnsler Tom Coole CB wrtho pam bod cymaint o’i negseuon Whatsapp wedi eu colli.

Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi cydweithio gyda thîm technegol gwybodaeth Llywodraeth Cymru i geisio eu hadfer ond wedi methu,

Mae’n fater sy’n codi cywilydd arna i, achos pe bawn i wedi gallu adfer y negeseuon rheini fydden ni ddim yn cael y sgwrs yma,” meddai.

Dywedodd bod y negseuon Whsatsapp wedi cymryd lle “y math o sgyrsiau wyt ti’n eu cael yn y coridor” ac nad y nod oedd “osgoi gwneud penderfyniadau o fewn y llywodraeth”.

Roedd yn cydnabod serch hynny y dylai fod wedi glynu at reolaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd sef bod angen arbed unrhyw drafodaethau swyddogol oedd yn digwydd ar ffonau personol.

“Rwy’n credu fod angen i ni gynnal adolygiad o ran beth sydd angen ei gadw ar gofnod a beth sy’n llai pwysig,” meddai.

“Mae’r cofnodion sydd ar gael yn adlewyrchu y penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau drostyn nhw.

“Rydw i yn sicr yn difaru nad ydi’r holl negeseuon rheini ar gael i chi fel eich bod chi’n gallu eu gweld nhw a bodloni eich hunain eu bod nhw’n cyd-fynd gyda’r wybodaeth sydd gyda chi o’ch blaenau chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.