Dau beilot yn cwympo i gysgu yng nghanol hediad
Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i ddau beilot gwympo i gysgu am 28 munud yng nghanol hediad.
Fe syrthiodd y ddau ddyn i gysgu ar awyren oedd yn teithio o Sulawesi i brifddinas Indonesia, Jakarta ar 25 Ionawr.
Y gred yw bod un wedi blino ar ôl bod yn helpu i ofalu am ei efeilliaid newydd-anedig.
Roedd y peilot 32 oed wedi dweud wrth ei gyd-beilot i gymryd rheolaeth o’r awyren tua hanner awr ar ôl cychwyn, gan ddweud bod angen iddo orffwys.
Fe gytunodd y cyd-beilot 28 oed ond fe syrthiodd ef i gysgu hefyd.
Fe ddeffrodd y prif beilot ar ôl 28 munud a sylweddoli'r hyn oedd wedi digwydd.
Er bod Airbus A320 wedi gwyro ychydig oddi ar y llwybr fe lwyddodd y peilotiaid i lanio'r awyren yn ddiogel. Ni chafodd unrhyw un o'r 153 o deithwyr oedd ar yr awyren unrhyw anafiadau.
Fe ddangosodd profion bod pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon yn ddau beilot yn normal. Roedd y profion alcohol yn negyddol hefyd.
Mae'r awdurdodau bellach wedi “ceryddu” y cwmni Batik Air am y digwyddiad gyda phennaeth trafnidiaeth awyr Indonesia, M Kristi Endah Murni, yn dweud y dylai Batik Air dalu mwy o sylw i amser gorffwys eu criw.
Yn ôl Batik Air maent yn dilyn y "polisi gorffwys digonol” ac “wedi ymrwymo i weithredu’r holl argymhellion diogelwch”.
Llun: Wochit