Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Siom arall i Gymru ar ôl colli yn erbyn Ffrainc

10/03/2024
Cymru colli

Roedd siom arall i Gymru yn y Chwe Gwlad ddydd Sul ar ôl colli o 45 i 24 yn erbyn Ffrainc. 

Roedd yna un newid hwyr i dîm Cymru cyn herio Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sul, gydag Elliot Dee yn dechrau fel bachwr wedi i Ryan Elias gael ei anafu. 

Roedd hi'n ddechrau perffaith i Gymru gyda Sam Costelow yn sgorio cic gosb gan ei gwneud hi'n 3-0 ar ôl ychydig funudau yn unig. 

Ond yn fuan wedyn, fe wnaeth Thomas Ramos ei gwneud yn gyfartal i Ffrainc gyda chic gosb.

Roedd Cymru ar y blaen eto ar ôl 10 munud o chwarae, gyda Rio Dyer yn gwneud ei ffordd drwy amddiffyn Ffrainc i sicrhau cais i Gymru, a Sam Costelow yn trosi.

Daeth cic gosb arall i Ffrainc yn fuan wedyn, gyda Thomas Ramos yn cicio'n llwyddiannus eto. 

Ond dechreuodd Ffrainc adeiladu ar eu momentwm yn y gêm, gyda Gael Fickou yn camu allan o dacl Sam Costelow i sgorio cais gan ei gwneud yn 10-13 i Les Bleus.

Ymatebodd Cymru yn gadarnhaol ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda Tomos Williams yn sgorio cais a Sam Costelow yn trosi.

Roedd Cymru ar y blaen eto o bedwar pwynt, ond bedwar munud yn ddiweddarach, sgoriodd Nolann Le Garrec gais i'r gwrthwynebwyr a Thomas Ramos yn trosi.

17-20 i Ffrainc oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wedi 40 munud o rygbi cyffrous.

Cymru ddechreuodd gryfaf ar ddechrau'r ail hanner, gyda Joe Roberts yn sgorio ei gais cyntaf i'w wlad gan roi tîm Warren Gatland ar y blaen unwaith yn rhagor. 

Roedd trosiad Sam Costelow yn golygu fod Cymru ar y blaen o 24 i 20.

Roedd cefnogwyr Cymru yn dal eu gwynt wedi 55 munud o chwarae, ar ôl i Thibaud Flament sgorio i Ffrainc.

Ond daeth adolygiad i'r casgliad ei fod wedi gollwng y bêl, gan olygu nad oedd y cais yn cyfri ac roedd Cymru yn parhau ar y blaen.

Fe wnaeth cic gosb gan Thomas Ramos ar ôl 60 munud olygu mai pwynt yn unig oedd rhwng y ddau dîm gyda 20 munud i fynd.

Ond roedd Cymru ar ei hôl hi unwaith eto yn dilyn cais gan Georges-Henri Colombe a throsiad gan Thomas Ramos, gyda chwe pwynt o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Aeth Ffrainc ymlaen i sicrhau point bonws funudau wedyn, gyda Romain Taofifenua yn rhedeg am y bêl cyn ei tharo ar lawr i'r gwrthwynebwyr.

Fe ildiodd Cymru 17 pwynt o fewn naw munud, gyda phwysau corfforol Ffrainc yn dechrau dweud ar y tîm cartref.

Fe wnaeth cic gosb gan Thomas Ramos gynyddu'r bwlch, gyda Ffrainc bellach ar y blaen o 40 i 24.

Er gwaethaf yr ymdrech gan Gymru, gorffennodd y gêm gyda Ffrainc yn ennill o 45 i 24 ar ôl cais hwyr iawn gan Maxine Lucu i roi halen ar y briw.

Fe fydd Cymru yn troi eu gobeithion rwan at Yr Eidal ddydd Sadwrn nesaf, gan obeithio osgoi'r llwy bren.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.