Newyddion S4C

Cynnal ymchwiliad i elusen o Gaerdydd dros ddefnydd o fideo ar gyfryngau cymdeithasol

08/03/2024
Canolfan Al-Manar

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i elusen yng Nghaerdydd dros ei defnydd o fideo ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Ymddiriedolaeth Canolfan Al-Manar ei sefydlu yn 2009 i wella a chefnogi addysg Islamaiadd, cryfhau perthnasau cymunedol yng Nghaerdydd ac addysgu'r cyhoedd am grefydd Islam.

Dywedodd y Comisiwn Elusennol bod fideo a gafodd ei chyhoeddi ar gyfrif Facebook yr elusen ym mis Tachwedd 2023 wedi codi pryderon am reolaeth cyfryngau cymdeithasol yr elusen.

Ychwanegodd y Comisiwn y gallai'r fideo awgrymu cefnogaeth tuag at sefydliad terfysgol Hamas.

Ni chafodd y fideo ei chreu gan yr elusen ond fe gafodd ei phostio ar un o'i phlatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Comisiwn ei fod yn disgwyl i'r holl ymddiriedolwyr wneud "popeth o fewn eu gallu i amddiffyn elusennau rhag y perygl o gamddefnyddio, sy'n cynnwys prosesau i atal hybu credoau a all gael eu hystyried i fod yn niweidiol neu anghyfreithlon."

Yn dilyn ymyrraeth y Comisiwn, mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi dileu'r fideo ac wedi cymryd camau i wella eu protocol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fel rhan o'r ymchwiliad, fe fydd y rheoleiddiwr yn ymchwilio yn llawn i'r digwyddiadau a arweiniodd at bostio'r fideo.

Fe fydd y rheoleiddiwr hefyd yn gofyn am sicrwydd y bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i brotocol yr elusen ar gyfryngau cymdeithasol a'u bod yn ddigonol i "atal hyn rhag digwydd eto".

Fe fydd y Comisiwn yn cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad wedi iddo ddod i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.