Newyddion S4C

Gobaith wedi'r anobaith: Y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yn trafod goroesi cyfnod o hunan-niweidio

08/03/2024

Gobaith wedi'r anobaith: Y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yn trafod goroesi cyfnod o hunan-niweidio

Rhybudd: Mae’r erthygl ganlynol yn trafod hunan-niweidio ac fe all beri gofid i rai.

"Falle y gobaith 'na o wybod fod pethe'n gwella, fod pethe ddim yn mynd i fod yn wael am byth - fi'n meddwl hwnna yw'r unig ddarn o gyngor alla i roi i rywun."

Mae Mirain Iwerydd yn 22 oed ac yn gweithio fel cyflwynwraig radio a theledu llawrydd. 

Yn wreiddiol o Grymych ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Mirain yn wyneb cyfarwydd i nifer yng Nghymru, gan gyflwyno rhaglenni Eisteddod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar BBC Radio Cymru. 

Ond yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol, fe brofodd Mirain heriau, gan gynnwys hunan niweidio ac anhwylder bwyta. 

Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn cyfweliad am yr heriau a wynebodd hi yn ei harddegau, dywedodd Mirain wrth Newyddion S4C: "O'dd yr ysgol uwchradd yn gyfnod bach diddorol, o'dd e'n teimlo fel wrth edrych nôl, o'dd e fel saith mlynedd o jyst heriau, un ar ôl y llall.

"Oedd 'na lot o gyfnodau grêt yn yr ysgol 'fyd ond nes i rili stryglo gyda fy iechyd meddwl i, o'dd 'da fi'r full package fel o'dd fy nghwnselydd ysgol i 'di disgrifio unweth... o'n i'n arfer hunan niweidio, o'dd 'da fi broblema 'da bwyd, gorbryder, iselder, pob dim rili - o'dd e ddim yn gyfnod grêt."

'Adlewyrchu ar bethau'

Mae Mirain yn awyddus i rannu ei phrofiad yn y gobaith o helpu eraill sy'n wynebu heriau tebyg.

"Fi 'di bod yn meddwl am siarad am y pethe 'ma ers sbel fach ond do'n i ddim cweit yn teimlo fel o'n i'n barod i neud 'na neu o'n i'n barod i fynd nôl a meddwl am y cyfnod 'na; o'n i ddim cweit yn teimlo fel bod digon o amser wedi bod rhwng hwnna i gyd a nawr," meddai.

"Ond nawr fi'n teimlo fel bo' fi mewn pwynt yn fy mywyd i lle fi'n gallu adlewyrchu ar bethe. Fi'n teimlo fel fi yn gallu siarad am y peth a fi yn meddwl bod e'n bwysig i drafod y pethe 'ma achos fi'n cofio pan o'n i'n falle yn 14,15,16 neu hyd yn oed yn iau na 'na, o'n i'n teimlo mor unig, ife jyst fi sy'n teimlo fel hyn, oes na rwbeth yn bod arna i?

"Bydden i wedi caru gweld rhywun o'n i'n watchio ar y telly neu'n gwrando arnyn nhw ar y radio yn gweud 'Hei, actually na fi'n deall hwn, fi 'di bod trwy hwn' a dyna dwi'n gobeithio alla i neud trwy siarad fel hyn a bod yn agored am y pethe 'ma. 

"Os oes na un person mas 'na sydd jyst yn edrych ar hwn a bod fel 'o reit oce, iawn' wedyn job done."

Image
Mirain
Mae Mirain yn wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu yng Nghymru. Llun: BBC

'Rhan ohona i'

Yn ôl Mirain, mae'r creithiau o'r gorffennol yn "rhan ohoni".

"Wrth gwrs, ma' creithie 'da fi dros fy nghorff i a 'dyn nhw ddim yn rhywbeth dwi'n dueddol o ddangos," meddai.

"Sai'n gwbod pam - 'dyn nhw ddim yn teimlo fel bo' nhw'n cyd-fynd â'r fersiwn cyhoeddus dwi'n roi mas i'r byd, neu ohona i nawr, a ma' hwnna yn sili a gweud y gwir achos ma' nhw'n rhan ohona i, a rili, 'sdim ots 'da fi bo' nhw 'na."

Mae Mirain yn ddiolchgar iawn i deulu a ffrindiau, athrawon a'i chwnselydd yn yr ysgol am eu cymorth yn ystod ei harddegau.

'Wedi dod trwy hyn i gyd'

Ar ôl ei chyfnod yn yr ysgol, aeth Mirain yn ei blaen i sicrhau gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae hi'n gallu cymryd balchder yn yr hyn y mae hi wedi ei gyflawni wrth edrych yn ôl.

"Ydw, dwi yn falch o fy hunan, a dyw hwnna ddim yn rywbeth fi'n gweud lot achos dwi'n dishgwl i fy hunan wneud yn dda, fi'n gweithio'n galed ymhob agwedd o fy mywyd i, neud yn siwr bo' fi'n gallu cyrraedd yr uchelfannau fi'n gosod i fy hunan," meddai. 

"Falle bo' hwnna'n rhan o'r broblem bo' fi bach yn galed ar fy hunan ambell waith.

"Ond tu hwnt i'r stwff gyrfa a'r stwff fi'n neud, dwi'n caru neud e wrth gwrs a dwi yn browd o fy hunan, ond un o'r diwrnoda mwya balch o'n hunan ges i oedd ar ddiwrnod fy seremoni graddio i. 

"Oedd jyst bod yn yr ystafell 'na gyda fy nghyd-fyfyrwyr eraill, fy nheulu i lan yn y bocs yn Aberystwyth, jyst yn gwylio fi'n mynd lan i gael y tystysgrif  'ma, ag yn y foment 'na, o'dd e jyst yn teimlo fel o'n i'n cau pennod. 

"O'n i 'di dod ben a chyrraedd diwedd y rhan 'ma yn fy mywyd i, ac o'r diwedd, o'n i'n gallu deud reit fi 'di dod trwy hyn i gyd a 'di dod mas o bob dim."

'Cario mlaen'

Neges Mirain i unrhyw un sy'n wynebu heriau tebyg fyddai i ddyfalbarhau.

"Bydde fi'n gweud ma raid jyst cario mlaen a falle bod hwnna ddim yn gyngor grêt i rywun sy'n rili stryglan a fi 'di bod yn meddwl am hwn a sai'n meddwl bod 'na berlau 'da fi sy'n gallu neud pethe yn haws," meddai.

Ac ei neges hi i'r Mirain iau fyddai i gredu ynddi hi ei hun.

"Sai'n meddwl bydde hi'n gallu credu be mae fy mywyd i fel nawr, bydden i jyst yn mynd nôl ati hi a rhoi hyg iddi hi, jyst yn gafael ynddi mor dynn a jyst cario mlaen...ma' 'da ti'r cryfder 'na ynot ti, y tân 'na, a dyna be' sy'n mynd i neud ti yn ti a creda yn dy hunan, plis."

Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.