Newyddion S4C

'Condoms, cenhedlu a chydsyniad': Dysgu pobl am addysg rhyw

07/03/2024

'Condoms, cenhedlu a chydsyniad': Dysgu pobl am addysg rhyw

Condoms, cenhedlu a chydsyniad yw rhai o’r pynciau fydd yn cael sylw ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol newydd Cymraeg.

Mae Ffraid Gwenllïan o Gaernarfon, sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi i fod yn ddoctor, wedi sefydlu cyfrif SECS ar blatfformau X, Instagram a Facebook, gyda’r bwriad o ‘addysgu pobl o bob oed am addysg rhyw’. 

Mae hi’n dweud bod ‘angen cael gwared ar y stigma ynghylch y pwnc’ a bod ‘angen safe space i bobl fedru trafod a chael y wybodaeth gywir drwy gyfrwng y Gymraeg’.

“Ddylia ni gyd fod yn gwybod am stwff fel contraception, STIs, consent, a dylian ni fod wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol, ond dwi’n gwybod o siarad efo lot o bobl o bob oed bod hynna ddim yn wir,” meddai Ffraid. 

Image
SECS Instagram

A hithau ar ei blwyddyn olaf yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor, mae Ffraid, sy’n 31 oed, newydd ddechrau ar gyfnod 'dewisol' (neu Elective) ei chwrs. 

Cyfnod o saib i ffwrdd o’r ysgol feddygol, a chyfle i wirfoddoli ym maes iechyd yw diben y cyfnod 'dewisol', ac mae hi wedi penderfynu defnyddio’r amser i sefydlu cyfrif @secscymru.

‘Diffyg mawr’

Mae hi o’r farn bod amryw o ffactorau – gan gynnwys y ffordd mae’r pwnc wedi bod yn cael ei ddysgu yn yr ysgol, a’r ffordd mae’n cael ei drafod ar yr aelwyd – angen newid:

“Mae ‘na ddiffyg mawr yn y ffordd mae llawer wedi cael eu haddysgu – a dwi ddim yn meddwl bod hyna’n fai ar yr ysgolion. Mae o ‘di gwreiddio’n lot dyfnach na hynna; mae’n ymwneud â thraddodiad; y ffordd ‘dan ni ‘di cael ein magu a’r ffordd mae cymdeithas ar hyn o bryd.

“Achos bod y diffyg ‘na yna, o’n i’n meddwl bod rhaid i fi drio gwneud rhywbeth - cyflwyno’r pwnc mewn ffordd hwyl, ysgafn, drwy gyfrwng y Gymraeg fel pobl yn teimlo bod o’n rhywbeth normal i siarad amdano”.

Consent

Un o’r pynciau fydd yn cael ei drafod ar SECS fydd cydsyniad (neu consent) – pwnc pwysig sydd wedi’i anwybyddu yn y gorffennol yn ôl Ffraid:

“Mae consent yn un o’r pethau pwysig ‘na sydd angen cael ei drafod.

“Yn sicr pan o’n i yn yr ysgol, dwi’m yn cofio consent yn cael ei drafod yn rhan o wersi Addysg Rhyw.

“Dwi’n meddwl bod pobl ddim yn gwbod digon amdano, yn enwedig pan mae’n dod i pan mae pobl wedi yfed, dwi’n meddwl bod blindspot chydig am be mae pobl yn gwybod. Mae’n sgwrs ddylien ni gyd fod yn ei gael yn agored.”

Rôl ysgolion

Mae Ffraid, sydd hefyd wedi cyflwyno eitem addysg rhyw Iawn Jonis! ar Hansh, yn “croesawu’r” penderfyniad i wneud Addysg Rhyw a Pherthnasedd yn bwnc gorfodol ar faes llafur ysgolion Cymru ers 2022 yn ‘gam i’r cyfeiriad cywir’. 

Ond mae’n credu bod angen i’r drafodaeth ddigwydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn ogystal:

“Efo’r cwricwlwm newydd i Gymru, mae ‘na ymgais i gysoni be sy’n cael ei ddysgu ar draws y wlad, ac mae hyna’n rywbeth i’w groesawu. 

Image
Post SECS

“Ond dwi’n meddwl bod ‘na elfen ohono’n rhoi gormod o bwysau ar ysgolion i wneud y dasg hynny.

“Mae’n rhywbeth ddylen ni allu trafod ym mhob man. Dylai rhieni fedru trafod o efo’u plant, a ffrindiau fod yn medru trafod gyda’i gilydd. 

“Dwi’n gobeithio medra i helpu i roi’r tŵls i bobl fedru siarad efo’u plant am puberty, neu efo’u ffrindiau am y menopôs.”

Mae’r ymateb i’r cyfrif hyd yma wedi bod yn un positif iawn: “Nes i lansio wythnos yma, a dwi wedi cael lot o bobl yn dilyn ar X, Instagram a Facebook hyd yma, gyda llawer o bobl yn dweud bod hi’n bwysig i gael rhywbeth fel ‘ma, felly mae’n dda gweld y gefnogaeth yna.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.