'Anghyfrifol a pheryglus': Tynnu arwyddion ffyrdd i lawr yn Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod yn fwyfwy pryderus am gyfres o ddigwyddiadau lle mae arwyddion ffyrdd wedi cael eu tynnu i lawr yn anghyfreithlon.
Dros gyfnod o wythnos, cafodd saith o arwyddion eu tynnu lawr yn ardal Llangadog, gan godi pryderon difrifol am ddiogelwch.
Ymhlith yr arwyddion rhybuddio a dynnwyd i lawr, roedd arwydd terfyn cyflymder cenedlaethol, arwydd tro dwbl i'r chwith yn gyntaf, arwydd cyffordd o'ch blaen, ac arwydd terfyn cyflymder o 20mya.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud bod yr heddlu'n ymchwilio i'r mater.
'Anghyfrifol'
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith bod tynnu'r arwyddion lawr yn anghyfrifol ac yn beryglus.
“Yn ogystal â bod yn anghyfreithlon, mae'r weithred ddifrifol hon o fandaliaeth yn achosi risg sylweddol i fywyd gan mai pwrpas yr arwyddion hyn yw rhoi gwybodaeth i yrwyr am gyflwr y ffordd o'u blaenau. Gallai diffyg arwyddion gyfrannu at wrthdrawiad traffig," meddai.
“Nid yn unig y mae tynnu'r arwyddion hyn i lawr yn anghyfrifol ac yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd, ond mae gosod rhai eraill yn eu lle yn gostus iawn i'r awdurdod lleol - gan roi mwy o bwysau byth ar y pwrs cyhoeddus.
“Felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad, rwy'n eich annog i roi gwybod iddyn nhw ar unwaith.”