Newyddion S4C

Teyrnged i fachgen 'hoffus' a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon

06/03/2024
Kaylan Hippsley

Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Kaylan Hippsley, o Hirwaun yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu ar 29 Chwefror.

Dywedodd ei deulu ei fod yn fachgen "disglair a deallus."

“Roedd Kaylan yn fachgen mor ddigywilydd. Roedd e mor olygus yn union fel ei dad.

“Roedd Kaylan yn chwaraewr rygbi a phêl-droed dawnus ac wrth ei fodd â chwarae gemau ar-lein. Roedd yn fachgen disglair, deallus ac yn ddisgybl hoffus yn Ysgol Gymunedol Aberdâr.

“Roedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda’i deulu ac roedd ganddo grŵp gwych o ffrindiau. Rydyn ni mor drist i golli Kaylan mor ifanc, dim ond 13 oed gyda’i holl fywyd o’i flaen.

“Rydyn ni fel teulu eisiau diolch i bawb a helpodd yn y lleoliad, o barafeddygon, aelodau’r cyhoedd, ffrindiau Kaylan i’r gwasanaethau brys a’r heddlu a wnaeth bopeth o fewn eu gallu i achub Kaylan. O waelod ein calonnau, rydym yn ddiolchgar.

“Mae ein diolch hefyd i gymuned leol Hirwaun sydd wedi ein cefnogi o bell i anfon eu gweddïau a’u cefnogaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn.

“Rydym am ddiolch yn arbennig i’r nyrsys a’r meddygon yn Ysbyty’r Mynydd Bychan am ofalu am Kaylan a chefnogi ein teulu ar adeg mor ofnadwy. Roeddent mor ofalgar a pharchus byddwn yn ddiolchgar am byth am eu cefnogaeth.

“Kaylan, roedd eich bywyd yn fendith, y cof ohonot yn drysor. Rwyt ti'n cael dy garu y tu hwnt i eiriau ac nid oes modd i ni gyfleu faint yr ydym yn dy golli.

“Tan i ni gwrdd eto.”

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad. 

Fe ymddangosodd Harley Whiteman, 19 oed o Hirwaun, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn wedi’i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus a methu â darparu prawf i’w ddadansoddi.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos mewn gwrandawiad arall yn Llys y Goron Merthyr fis nesaf.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio am dystion a lluniau neu luniau camera cerbyd o’r Ford Fiesta brown oedd yn cael ei yrru o amgylch ardal Hirwaun cyn y gwrthdrawiad.

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400069631.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.