Cyhuddo nain a thaid o lofruddio bachgen dwy oed
Mae nain a thaid bachgen dwy oed wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.
Ymddangosodd Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, o bentref Garden City, Sir y Fflint, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher drwy gyswllt fideo o garchardai y Berwyn a Styal.
Dywedodd yr erlynydd Catherine Elvin fod y ddau wedi eu cyhuddo o lofruddio Ethan Ives, oedd yn ddwy oed, ym mis Awst 2021.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o ganiatáu i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac esgeuluso plentyn.
Dywedodd Ms Elvin fod y plentyn wedi dioddef anafiadau i'w ymennydd a bu'n rhaid ei gludo i ysbyty yng Nghaer cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl.
Cafodd cais Michael Ives a Kerry Ives i gael eu rhyddhau ar fechnïaeth ei wrthod.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands y byddai'r ddau yn parhau yn y ddalfa nes y gwrandawiad nesaf ar 17 Mai.
Mae mam Ethan, Shannon Kayleigh, 27, o'r Wyddgrug, wedi cael ei chyhuddo o achosi neu ganiatáu plentyn i ddioddef niwed corfforol difrifol ac esgeuluso plentyn.
Mae disgwyl iddi ymddangos yn y llys ynadon ar 4 Ebrill.