Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan menywod Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 'fwyaf heriol erioed'

06/03/2024
merched rygbi Cymru

Mae carfan menywod Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.

Fe fydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar 23 Mawrth ym Mharc yr Arfau yn erbyn Yr Alban.

Mae'r Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi enwi carfan o 37 o chwaraewyr, gyda Hannah Jones yn parhau wrth y llyw fel capten.

Mae'r rhan helaeth o'r garfan a gafodd eu dewis y tymor diwethaf hefyd wedi eu henwi'r tymor hwn, ond mae nifer o chwaraewyr ifanc hefyd wedi eu cynnwys.

Mae saith o chwaraewyr sydd eto i ennill cap wedi eu cynnwys yn y garfan, sef Jenny Hesketh, Cath Richards, Molly Reardon, Jenni Scoble, Gwennan Hopkins, Mollie Wilkinson a Sian Jones.

Mae Shona Wakely, a enillodd ei chap cyntaf yn ôl yn 2010 ac sydd bellach wedi ennill 45 o gapiau, yn dychwelyd i'r garfan.

Fe fydd Natalia John a Gwen Crabb yn dychwelyd ar ôl methu â theithio i Seland Newydd i gymryd rhan yn y WXV1 yn sgil anafiadau.

'Yr un fwyaf heriol erioed'

Dywedodd Ioan Cunningham Prif Hyfforddwr Cymru: "Dyma’r garfan anoddaf i mi ei dewis ers i’r gêm droi’n broffesiynol yn 2022 ac roedd llawer iawn o drafod ymysg y tîm hyfforddi cyn i’r 37 o enwau gael eu dewis yn y pendraw.

"Y Bencampwriaeth eleni fydd yr un fwyaf heriol erioed – ond ry’n ni’n hynod o gyffrous i weld rhai o’r chwaraewyr newydd ac i osod safonau newydd i ni’n hunain hefyd.

"Roedd cefnogaeth cyhoedd Cymru’n hwb anferth i ni’r llynedd ac mae’r ffaith y byddwn yn chwarae’r Eidal yn Stadiwm Principality yng ngêm olaf ein hymgyrch – yn tynnu dŵr i’r dannedd. Wedi dweud hynny – mae heriau a sialensau mawr eraill yn ein wynebu cyn hynny wrth gwrs.

"Ry’n ni wedi dewis cymysgedd o brofiad ar y lefel yma a thalent ifanc sydd wedi creu argraff arnom yn ystod y gemau o dan 20 – ac yn enwedig yn ystod yr Her Geltaidd – sydd wedi cryfhau’n sylweddol eleni. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut argraff fydd y saith chwaraewr sydd heb ennill cap eto yn eu creu ar y garfan."

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Abbey Constable, Carys Phillips, Kelsey Jones, Molly Reardon, Sisilia Tuipulotu, Donna Rose, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Natalia John, Gwen Crabb, Bryonie King, Shona Wakley, Alisha Butchers, Georgia Evans, Alex Callender, Kate Williams, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins

Olwyr: Jasmine Joyce, Nel Metcalfe, Jenny Hesketh, Courtney Keight, Kayleigh Powell, Cath Richards, Lisa Neumann, Amelia Tutt, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Hannah Bluck, Carys Cox, Lleucu George, Mollie Wilkinson, Niamh Terry, Keira Bevan, Sian Jones, Meg Davies.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.