Newyddion S4C

Nikky Haley yn rhoi'r ffidil yn to wedi ‘Super Tuesday’ yr Unol Daleithiau

06/03/2024

Nikky Haley yn rhoi'r ffidil yn to wedi ‘Super Tuesday’ yr Unol Daleithiau

Mae Nikki Haley, prif wrthwynebydd Donald Trump ar gyfer enwebiad y Blaid Weriniaethol yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau, wedi rhoi'r gorau i'w hymgyrch.

Daw wedi i etholiadau ‘Super Tuesday’ yn yr Unol Daleithiau gadarnhau i bob pwrpas mai Donald Trump a Joe Biden fydd ymgeiswyr eu pleidiau yn yr Etholiad Arlywyddol eleni.

Mae’r enw ‘Super Tuesday’ yn cyfeirio at ddiwrnod yn yr Unol Daleithiau pan mae dros chwarter y taleithiau yn pleidleisio'r un diwrnod am enwebiad y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr.

Mae'r cyfryngau yn yr Unol Daleithiau yn rhagweld fod yr Arlywydd presennol Joe Biden wedi ennill bob un o’r 15 talaith a Donald Trump wedi ennill 12.

Roedd yna rywfaint o syndod yn Vermont wrth i wrthwynebydd Donald Trump am yr enwebiad, Nikki Haley, ennill yr ornest yno.

Serch hynny cyhoeddodd Ddydd Mercher fod ei hymgyrch yn dod i ben.

“Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe wnes i lansio fy ymgyrch i fod yn arlywydd, gydag ymgyrch wedi'i seilio ar fy nghariad at wlad," meddai.

"Yr wythnos diwethaf, fe gafodd fy mam, sy'n fewnfudwr, bleidleisio i'w merch fod yn arlywydd. Dim ond yn America fyddai hynny'n digwydd."

'Brwydr'

Roedd yna hefyd syndod yn ras y Blaid Ddemocrataidd yn Samoa America, sydd ddim yn dalaith ond yn pleidleisio yn yr ornest enwebiadol, lle y mae disgwyl i'r dyn busnes Jason Palmer ddod i’r brig.

Mae’r canlyniadau yn golygu ei bod yn fwyfwy tebygol y bydd Donald Trump yn herio Joe Biden yn yr etholiad ar 5 Tachwedd yn yr un modd ag yn 2020.

Wrth siarad o’i gartref Mar-a-Lago yn Florida yn ystod yr awr ddiwethaf, canolbwyntiodd Trump ar ei wrthwynebydd tebygol Joe Biden yn hytrach na buddugoliaeth annisgwyl Nikky Haley.

Addawodd “gymryd ein gwlad yn ôl”, gan addo bod “Tachwedd 5 yn mynd i fod y diwrnod unigol pwysicaf yn hanes ein gwlad”.

Dywedodd Joe Biden fod miliynau o Americanwyr heddiw wedi “lleisio eu barn”, gan awgrymu bod etholwyr eisiau “ymladd yn ôl yn erbyn cynllun eithafol Donald Trump i fynd â ni am yn ôl”.

Roedd Trump yn “canolbwyntio ar ddialedd”, meddai Biden, ac mae eisiau “rhwygo rhyddid sylfaenol fel y gallu i fenywod i wneud eu penderfyniadau gofal iechyd eu hunain”.

"I bob Democrat, Gweriniaethwr, ac unigolion annibynnol sy'n credu mewn America rydd a theg: Dyma ein brwydr. Gyda'n gilydd, byddwn yn ennill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.