Cyhoeddi cynlluniau lleoliad Eisteddfod 2024
Mae'r cynlluniau ychwanegol ar gyfer lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cyhoeddi.
Cyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd mai Parc Coffa Ynysangharad fyddai cartref y Brifwyl, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Awst eleni.
Fe fydd y ganolfan groeso a'r swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd, gyda maes parcio ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin.
Bydd y maes gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch, a thir Ysgol Uwchradd Pontypridd yn gartref i ŵyl Maes B.
Bydd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi dweud y bydd angen cyfyngu ar rannau penodol o Barc Coffa Ynysangharad a lleoliadau penodol ym Mhontypridd o ddechrau mis Gorffennaf er mwyn "diogelu trigolion a sicrhau bod modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol."
Yn ôl y cyngor, fe fydd hyn yn cael ei wneud "fesul cam" ac am "yr amser byrraf posibl a dim ond pan fydd yn gwbl angenrheidiol."
Fe fydd y Parc, Chwarae'r Lido a Lido Ponty yn cau'n gyfan gwbl i ymwelwyr ar 30 Gorffennaf, tridiau cyn i'r Brifwyl ddechrau ar 3 Awst.
'Cyn lleied o darfu â phosibl'
Dywedodd yr Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhys Lewis: "Nid ydym yn diystyru’r gwaith a’r trefniadau cynllunio sydd eu hangen i gynnal achlysur mor enfawr, ac mae’r Eisteddfod a’r Cyngor wedi bod yn gweithio ers misoedd lawer i sicrhau bod cynlluniau ar waith a bod cyn lleied o darfu â phosibl.
"Dros y misoedd nesaf, bydd gwybodaeth fanylach am reoli traffig a chau safleoedd o amgylch Pontypridd yn cael ei rhannu â thrigolion, ond mae’r Cyngor a’r Eisteddfod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr achlysur yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, ac annog trigolion i gymryd rhan yn y profiad arbennig yma."
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Betsan Moses: "Gyda 150 diwrnod i fynd, mae’n wych cyhoeddi manylion ychwanegol am yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n ddiolchgar i'r Cyngor am ei holl gymorth a chefnogaeth dros y misoedd diwethaf.
"Mae cynnal yr Eisteddfod mewn ardal drefol yn dod â’i heriau ei hun, ac mae’r berthynas gyda’r Cyngor ac ystod eang o bartneriaid lleol wedi bod yn hollbwysig i ddod â phopeth at ei gilydd."