Taith olaf yr Hairy Bikers yn ymweld â Dyffryn Nantlle
Yn dilyn y newyddion trist yr wythnos ddiwethaf fod Dave Myers o'r Hairy Bikers wedi marw, mae'r gyfres olaf i'r ddau gogydd ei ffilmio gyda'i gilydd yn cael ei darlledu ar hyn o bryd.
Yn y bennod ddiweddaraf ar BBC 2 nos Fawrth, fe fydd Dave Myers a Si King yn ymweld â sawl cynhyrchydd bwyd a diod amlwg yn ardal Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.
Ymysg y bobl sydd yn dod i sylw'r ddau deithiwr, mae Maggie Ogunbanwo o gwmni Maggie’s African Twist, a Steff Huws o gwmni coffi Poblado.
Mae Maggie yn paratoi bwydydd gan ddefnyddio cynhwysion a rheseitiau traddodiadol o wledydd Affrica ac mae cwmni Poblado yn rhostio ffa coffi masnach deg, gan fewnforio ffa coffi o bedwar ban byd.
Roedd yr Hairy Bikers wedi ymweld â'r ardal er mwyn ffilmio'r gyfres ym mis Awst y llynedd, ac wrth siarad hefo Newyddion S4C cyn y darllediad nos Fawrth, dywedodd Steff Huws, perchennog cwmni coffi Poblado: "Roeddem mor ddigalon i glywed am y newyddion trist bod Dave Myers wedi ein gadael ni.
"Mi gafon ni’r pleser o ymweliad gan yr Hairy Bikers i’r rhosty yn Nantlle fis Awst diwethaf.
"Cawsom ein taro’n fawr gan yr angerdd a’r diddordeb gwirioneddol oedd gan Dave, nid yn unig am ein gwaith, ond am fywyd.
"Mi oedd hi wir yn hyfryd sgwrsio ag ef o flaen, ac oddi ar y camera, ac fe adawon ni i gyd yn teimlo’n ffodus iawn i gwrdd â pherson mor ddiffuant a charedig.
"Roedd yn fraint cael rhannu prynhawn gydag ef ac roedd y newyddion ei fod wedi ein gadael ni i gyd yn teimlo tristwch pur."