Dau lanc wedi eu hanafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad ym Mangor
05/03/2024
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i ddau lanc 16 oed a 18 oed gael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mangor yn hwyr nos Sadwrn.
Fe darodd car Golf TDI lliw du, a char BMW 740 du yn erbyn ei gilydd ar Ffordd Ffriddoedd, ger safle Coleg Menai toc cyn hanner nos ar 2 Mawrth.
Cafodd y bachgen 16 oed ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke. Cafodd y dyn 18 oed ei gludo i Ysbyty Gwynedd.
Roedd y ddau yn teithio yn y car Golf TDI. Chafodd gyrrwr y car BMW ddim ei anafu.
Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
“Os oeddech yn gyrru yn yr ardal a bod gennych gamera yn eich cerbyd, gwiriwch a ydych o bosibl wedi recordio deunydd allweddol a allai fod o gymorth i'n hymchwiliad," meddai.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000221796
Llun: Google