Newyddion S4C

Cenhedloedd Unedig yn cadarnhau troseddau rhyw ar 7 Hydref

05/03/2024
ymosodiad Gwyl Nova Hamas

Mae tîm o’r Cenhedloedd Unedig wedi dod i’r casgliad bod “seiliau rhesymol i gredu” bod troseddau rhyw, gan gynnwys treisio wedi’u cyflawni yn ystod ymosodiadau Hamas yn Israel ar 7 Hydref.

Fe ddywedon nhw hefyd fod "gwybodaeth" sydd yn ei hargyhoeddi nhw bod gwystlon wedi dioddef troseddau rhyw.

Mae Hamas wedi gwadu bod ei dynion oedd yn cario gynnau wedi ymosod yn rhywiol ar ferched yn ystod yr ymosodiadau.

Mae'r adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dweud ei bod yn credu bod troseddau rhyw wedi digwydd mewn o leiaf 3 lleoliad gan gynnwys safle gŵyl gerddoriaeth Nova.

Ar y 7 o Hydref fe wnaeth Hamas ladd tua 1,200 o bobl yn Ne Israel a chymryd 253 o bobl eraill yn wystlon.

Fe wnaeth Israel daro nôl trwy lansio ymgyrch filwrol yn Gaza. Mae'r Weinidogaeth Iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yn dweud bod 30,500 o bobl wedi’u lladd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cenhedloedd Unedig wedi "dod o hyd i wybodaeth glir ac sy'n argyhoeddi bod troseddau rhyw, gan gynnwys trais, artaith rywiol, triniaeth greulon, annynol a diraddiol wedi'u cyflawni yn erbyn gwystlon".

Yn ôl yr adroddiad mae "sail resymol i gredu y gallai trais o'r fath fod yn parhau yn erbyn y rhai sy'n dal i gael eu cadw mewn caethiwed".

Mae'r ddogfen yn nodi bod adroddiadau hefyd o drais rhywiol yn erbyn Palesteiniad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.