Newyddion S4C

Y BBC yn wynebu 'dewisiadau caled a phenderfyniadau anodd' medd y cadeirydd newydd

04/03/2024
BBC

Mae cadeirydd newydd y BBC wedi rhybuddio bod y gorfforaeth yn wynebu “dewisiadau caled a phenderfyniadau anodd” gan fod rhai “byw o fewn ein modd”.

Mae Samir Shah yn cymryd lle Richard Sharp, a ymddiswyddodd y llynedd ar ôl methu â datgan ei gysylltiad â benthyciad o £800,000 a roddwyd i Boris Johnson.

Ers hynny, mae'r Fonesig Elan Closs Stephens wedi bod yn gadeirydd dros dro ar y BBC.

Mewn e-bost at staff ar ddiwrnod cyntaf ei swydd, dywedodd Shah fod yn rhaid i’r BBC “addasu ac arloesi i sicrhau bod y BBC yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb”.

Ffi'r drwydded

Gan gydnabod y ddadl sydd ar fin digwydd ar ddyfodol ffi’r drwydded, dywedodd: “Beth bynnag yw ein model ariannu tymor hir, mae pwysau cyllidebol yn y tymor agosach hefyd a rheidrwydd clir i fuddsoddi mewn technoleg ddigidol nawr.”

Ychwanegodd: “Ond fe fydd dal angen i ni fyw o fewn ein modd mewn sefyllfa ariannol anodd.

“Mae hynny’n golygu meddwl yn galed iawn am yr hyn y dylen ni roi’r gorau i’w wneud neu wneud yn wahanol iawn. Fy rôl i – a rôl y bwrdd – yw gweithio gyda’r sefydliad wrth inni wynebu dewisiadau caled a phenderfyniadau anodd.”

Ychwanegodd tra bod y BBC yn “parhau i ddal lle unigryw ym mywyd diwylliannol Prydain”, mae’n ymuno ar “adeg hollbwysig” i’r gorfforaeth pan mae’n cystadlu gyda ffrydwyr a’r cyfryngau cymdeithasol am sylw cynulleidfaoedd.

Cyn ei benodiad roedd Shah yn bennaeth materion cyfoes teledu’r BBC, ac yn ddiweddarach bu’n rhedeg adran newyddiaduraeth wleidyddol y BBC yn Millbank.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.